Lance Armstrong
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Seiclwr Americanaidd yw Lance Armstrong (ganwyd Lance Edward Gunderson, 18 Medi 1971). Enillodd y Tour de France saith gwaith, bob blwyddyn rhwng 1999 a 2005. O fis Hydref 2012 fodd bynnag, mae ei lwyddiant yn cael ei gwestiynu oherwydd honiadau iddo gamddefnyddio cyffuriau er mwyn gwella'i berfformiad. Ef hefyd yw sylfaenydd a chadeirydd Sefydliad Lance Armstrong sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o gancr.
Lance Armstrong | |
---|---|
Ganwyd | Lance Edward Gunderson 18 Medi 1971 Plano |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol, hunangofiannydd, podcastiwr, triathlete |
Taldra | 177 centimetr |
Pwysau | 71 cilogram |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Eddie Charles Gunderson |
Mam | Linda Gayle Mooneyham |
Partner | Tory Burch |
Gwobr/au | Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Chevalier de la Légion d'Honneur, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Vélo d'Or |
Gwefan | http://www.lancearmstrong.com/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Motorola, Cofidis, Discovery Channel, Astana, RadioShack |
Ar ddechrau ei yrfa broffesiynol, enillodd Armstrong Bencampwriaeth Seiclo Heol UCI y Byd ym 1993 a nifer o rasys bychain eraill. Yn Hydref 1996, cafodd ddeiagnosis o gancr y ceilliau gyda thyfiant a oedd wedi lledu i'wymennydd a'i ysgyfaint. Yn wreiddiol, roedd ei siawns o oroesi'n fach iawn. Derbyniodd driniaethau ar ei ymennydd a'i geilliau a llawer o gemotherapi.