Dinas yn ne-orllewin Affganistan a phrifddinas daleithiol Helmand yw Lashkargah neu Lashkar Gah (Pashto: لښکرګاه‎, Dari: لشکرگاه‎). Saif ar lannau Afon Helmand, ychydig i'r de o'r briffordd sydd yn cysylltu Kandahar ac Herat. Yn hanesyddol cafodd ei galw'n Kashkari Bazaar, Kala-i Bist, neu Bost.[1]

Lashkargah
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth201,546 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLashkargah District Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Uwch y môr773 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.593819°N 64.371611°E Edit this on Wikidata
Map

Codwyd tref yma gan Mahmud, Swltan Ymerodraeth y Ghaznavid, yn ystod y 10g. Ysbeiliwyd y dref gan luoedd y Ghurid ym 1150, ond cafodd ei hail-adeiladu ganddynt. Dinistriwyd yn llwyr gan y Mongolwyr ym 1226. Ers hynny, codwyd nifer o wahanol amddiffynfeydd ar y safle.[1]

Yn ystod Rhyfel ISAF yn Affganistan, Lashkargah oedd canolfan y Fyddin Brydeinig wrth ymladd Ymgyrch Herrick (2002–14) yn erbyn Gwrthryfel y Taleban. Yn ystod ymgyrch ymosodol y Taleban yn 2021, cwympodd Lashkargah i'r Taleban wedi pythefnos o frwydro.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Ludwig W. Adamec, Historical Dictionary of Afghanistan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2003), tt. 232–3.
  2. (Saesneg) "Afghanistan: Fifteen years of security that British soldiers helped to build in Lashkar Gar has gone in 13 days", Sky News (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 21 Awst 2021.