Amddiffynfa

ffos neu wal a godwyd i amddifyn cymuned o bobl, fel arfer rhag ymosodwyr mewn cyfnod o ryfel

Adeilad, adeiladwaith neu strwythur arall a godir er mwyn cryfhau safle llu milwrol yn erbyn ymosodiad yw amddiffynfa, a all fod yn barhaol (er enghraifft bryngaerau, cestyll a chanolfannau milwrol) neu ar y maes (er enghraifft ffosydd).[1]

Amddiffynfa
Mathmilitary building, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysplace-of-arms, mur, porth dinas, tŵr, ffos, star fort, mur amddiffynnol, bartizan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Olion caer ger y môr a godwyd yn Abergwaun, Sir Benfro, yn y 18g.

Dygwyd y dull modern o amddiffyn lleoedd rhag gelynion i arferiad tua'r flwyddyn 1500. Ysgrifennwyd y llyfr cyntaf ar y pwnc gan yr arlunydd Albrecht Dürer yn 1527. Gwnaed gwelliannau mawr yn y gelfyddyd gan y Ffrancwr Sébastien Le Prestre de Vauban, peiriannydd milwrol ym myddin y Brenin Louis XIV, oddeutu'r flwyddyn 1700.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) fortification (military science). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.