Agor y brif ddewislen
Herat (2009)

Mae Herat yn ddinas hynafol yng ngorllewin Affganistan a phrifddinas a chanolfan weinyddol talaith Herat. Mae'n gorwedd 3,026 troedfedd uwch lefel y môr mewn dyffryn ffrwythlon ar lan afon Hari Rud, sy'n llifo i lawr o fynyddoedd canolbarth Affganistan ac ymlaen i anialwch Kara-Kum yn Tyrcmenistan. Mae'n 407 milltir o Kandahar, i'r de, a 469 milltir o'r brifddinas Kabul, i'r dwyrain.

Herat yw dinas drydydd fwyaf Affganistan, gyda phoblogaeth o 349,000 (amcangyfrifiad, 2006). Tajiciaid a/neu Fārsīwāns sy'n ffurfio mwyafrid y boblogaeth, gyda Pashtuniaid, Hazariaid, Uzbekiaid ac eraill yn lleiafrifoedd bychain. Mae pawb yn y ddinas yn siarad Perseg, yn ogystal ag ieithoedd eraill yn ôl eu grŵp ethnig.

Lleolir Herat ar groesfan ar yr hen lwybrau masnach, fel Llwybr y Sidan, sy'n cysylltu India, Tsieina, y Dwyrain Canol, Canolbarth Asia ac Ewrop. Mae'r ffyrdd o Herāt i Iran, Tyrcmenistan, Mazari Sharif a Kandahar yn dal i fod yn bwysig heddiw.

Sefydlodd Alecsander Fawr ddinas ar y safle a enwyd yn Alexandria Arion (Arion oedd yr enw Groeg a Lladin am yr Hari Rud).[1] Hyd heddiw, dominyddir y ddinas gan adfeilion y ddinas gaerog a gododd yno. Ar ôl marwolaeth Alecsander, pasiodd Herat trwy ddwylo'r Seleuciaid, y Parthiaid, a'r Sassaniaid. Ar ôl cwymp ymerodraeth y Sassaniaid cafodd ei cipio gan yr Arabiaid yn 661 a daeth yn un o ddinasoedd disgleiriaf y byd Islamaidd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn enwog am ei dysg, ei llenorion a'i gwin, ac roedd yn cael ei hadnabod fel "Perl Khorasan".

CyfeiriadauGolygu

  1. "The Empire and Expeditions of Alexander the Great". World Digital Library. 1833. Cyrchwyd 2013-07-26.