Last Letters from Hav
Mae Last Letters from Hav yn nofel a gyhoeddwyd yn 1985 gan yr awdur Jan Morris. Cafwyd y nofel ei hail gyhoeddi yn 2006 ynghyd â Hav of the Myrmidons.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Jan Morris |
Cyhoeddwr | Random House |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | Ionawr 1985 ![]() |
ISBN | 0-394-53262-7 |
Tudalennau | 203 tud |
Genre | Ffuglen wyddonol |
Crynodeb plot Golygu
Mae Last Letters from Hav yn naratif o ymweliad chwe mis mewn ymweliad a'r wlad ddychmygol, Hav. Mae'r nofel wedi ei hysgrifennu mewn arddull llenyddiaeth teithio. Mae'r nofel wedi ei strwythuro mewn dull episodig, gyda phob pennod yn cyd-fynd i fis a dreuliodd yr awdur yn Hav. Mae Hav ei hun yn benrhyn cosmopolitan annibynnol, wedi ei leoli rhywle yn nwyrain Môr y Canoldir.
Genre Golygu
Mae Last Letters from Hav a'i ddilyniant Hav of the Myrmidons yn weithiau o lenyddiaeth ddychmygol. Mae Ursula K. Le Guin o'r farn fod y nofel yn waith o ffuglen wyddonol oherwydd y defnydd o ffuglen ddychmygol i fynd i'r afael a materion o wyddoniaeth gymdeithasol.
Gwobrau ac enwebiadau Golygu
Cafodd Last Letters from Hav ei roi ar restr-fer ar gyfer Booker Prize for Fiction yn 1985.[1]