Jan Morris

Awdures a hanesydd o Gymraes

Awdures a hanesydd Cymreig oedd Jan Morris CBE (2 Hydref 192620 Tachwedd 2020).[1]

Jan Morris
GanwydJan Humphrey Morris Edit this on Wikidata
2 Hydref 1926 Edit this on Wikidata
Clevedon Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 2020 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, awdur, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PlantTwm Morys Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Heinemann Award Edit this on Wikidata

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei thriawd Pax Britannica, hanes Ymerodraeth Prydain, a phortreadau dinasoedd, yn enwedig Rhydychen, Fenis, Trieste a Dinas Efrog Newydd. Ysgrifennodd am hanes a diwylliant Sbaen. Ystyriodd ei hun yn Gymraes a symudodd i Lanystumdwy yn yr 1960au.

Fel James Morris, roedd hi'n aelod o'r cyrch ar Everest yn 1953 gan griw Edmund Hillary, a ddringodd y mynydd am y tro cyntaf.[2] Hi oedd yr unig newyddiadurwr i fynd ar y cyrch, gan ddringo gyda'r tîm i'r gwersyll 22,000 troedfedd fyny ar y mynydd, gan anfon y cyhoeddiad nodedig yn ôl i bapur newydd The Times mewn pryd i'w gyhoeddi ar 2 Mehefin 1953, diwrnod coroni Elizabeth II.[3]

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd James Humphrey Morris yn Clevedon, Gwlad yr Haf i fam o Loegr a thad o Gymru. Fe'i addysgwyd yn Lancing College, Gorllewin Sussex.

Bywyd personol golygu

Ym 1949, pan oedd dal yn James, priododd Elizabeth Tuckniss, merch i blannwr tê. Cafodd Morris a Tuckniss bump o blant gyda'i gilydd, sef y bardd a'r cerddor Twm Morys, Henry Morris, Mark Morris a Suki Morys. Bu farw un o'u plant pan oedd yn faban.

Dywedodd Morris yn ei hunangofiant Conundrum iddi ddechrau trawsnewid rhywedd ym 1964. Erbyn 1972, cafodd lawdriniaeth newid rhyw ym Moroco. Gwnaed y llawdriniaeth gan Georges Burou, am fod doctoriaid yn y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwneud y llawdriniaeth oni bai fod Morris a Tuckniss yn ysgaru, rhywbeth nad oedd Morris yn awyddus i wneud bryd hynny.[4] Ysgarodd y ddau ohonynt yn ddiweddarach, ond arhosodd y ddau gyda'i gilydd. Ar 14 Mai 2008 unwyd y ddau ohonynt yn gyfreithiol drwy bartneriaeth sifil.[5]

Marwolaeth golygu

Cyhoeddwyd ei marwolaeth yn 94 mlwydd oed gan ei mab Twm Morys ar 20 Tachwedd 2020. Bu farw am 11:40 yn Ysbyty Bryn Beryl ym Mwllheli, Llŷn.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr awdur a'r newyddiadurwr Jan Morris wedi marw yn 94 oed , BBC Cymru Fyw, 20 Tachwedd 2020.
  2. Lea, Richard (20 Tachwedd 2020). "Jan Morris, historian, travel writer and trans pioneer, dies aged 94". The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2020.
  3. Adams, Tim (22 Tachwedd 2020). "Jan Morris: She sensed she was 'at the very end of things'. What a life it was." The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-22. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2020.
  4. [Conundrum gan Jan Morris] New York Review of Books. 2006 td.174 isbn=9781590171899
  5. Divorce, the death of a child and a sex change... Andy McSmith. Love story: Jan Morris - but still together. The Independent 04-06-2008. Adalwyd ar 12-03-2010