Nofel Ffrangeg gan y llenor Morocaidd, Driss Chraïbi yw Le passé simple ("Y gorffennol syml"). Cafodd ei chyhoeddi am y tro cyntaf gan gwmni cyhoeddi Gallimard yn 1954 ac mae wedi cael ei chyhoeddi yn rheolaidd byth ers hynny. Cafodd y nofel sylw eang, ym Moroco a Ffrainc, oherwydd ei themâu dadleuol a mynegiant herfeiddiol ac fe'i beirniadwyd yn llym gan geidwadwyr yn y ddwy wlad fel ei gilydd, ond erbyn heddiw mae'n cael ei hystyried yn glasur o nofel sy'n dal i ddenu ymateb cryf.

Le passé simple
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurDriss Chraïbi Edit this on Wikidata
CyhoeddwrÉditions Gallimard Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata

Cynllun, themâu ac arddull golygu

Prif thema'r nofel yw'r gwrthdaro rhwng gwerthau'r Gorllewin a rhai Islam draddodiadol, a hynny ar lefel bersonol iawn yn erbyn cefndir o wladychiaeth a'r ymgyrch dros annibyniaeth i Foroco. Mae themâu pwysig eraill yn cynnwys lle merched yn y gymdeithas Islamaidd, rhyddid yr unigolyn, a hunaniaeth ddiwylliannol mewn oes o newid.

Mae'r nofel yn dilyn profiadau dyn ifanc o'r enw Driss sy'n cael ei anfon i ysgol Ffrangeg ym Moroco lle mae'n dod yn edmygwr brwd ond diniwed o wareiddiad y Gorllewin. Ac eto mae ei gefndir yn geidwadol. Mae ei dad – Y Seigneur ("Yr Arglwydd") – yn mwynhau parch a safle uchel yn y gymdeithas oherwydd ei "sancteiddrwydd" ymddangosiadol fel Mwslim dysgedig traddodiadol ac fel marsiandïwr llwyddiannus ond dan wyneb hyn ceir elfen gref o drais a thensiynau ym mywyd y teulu gyda chanlyniadau trasig sy'n llwyddo i droi Driss yn wrthryfelwr amharchus, anarchaidd, dinistriol a gwrthodedig.

Adroddir yr hanes yn y person cyntaf gan Driss a cheir elfen amlwg o'r hunangofiannol o ran profiad yr awdur, er mai dychmygol yw'r hanes. Mae arddull a mynegiant y nofel yn ffrwydrol ac uniongyrchol ond ceir hiwmor a thynerwch hefyd. Mae Driss Chraïbi yn cydnabod dylanwad William Faulkner arno yn y cyfnod pan ysgrifennodd hi.

Yr ymateb i'r nofel ym Moroco golygu

Am flynyddoedd cafodd Le passé simple ei fflangellu gan feirniaid ac arweinwyr ceidwadol ym Moroco ond erbyn heddiw mae'n cael ei hastudio ym mhrifysgolion y wlad.

Manylion cyhoeddi golygu

Cafodd Le passé simple ei gyhoeddi gan Gallimard, Paris, yn 1954. Yr argraffiad diweddaraf yw'r un yn y gyfres boblogaidd 'Folio', gan gwmni cyhoeddwyr Denoël, 2009. ISBN 978-2-07-037728-2