Driss Chraïbi
Roedd Driss Chraïbi (15 Gorffennaf 1926 - 1 Ebrill 2007) yn awdur o Foroco a aned yn El Jadida. Prif thema ei nofelau yw trefedigaeth ac maent yn cynnwys elfennau hunangofiannol amlwg.
Driss Chraïbi | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1926 El Jadida |
Bu farw | 1 Ebrill 2007 Valence |
Dinasyddiaeth | Moroco |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, awdur plant, dramodydd, radio journalist, rhyddieithwr, academydd |
Cyflogwr |
Gwaith llenyddol
golyguAr ôl treulio ei blentyndod yn Casablanca, aeth Driss Chraïbi i Baris yn 1946 er mwyn astudio cemeg a niwroseiceiatreg, cyn iddo droi i lenydda a dilyn gyrfa fel newyddiadurwr.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Le passé simple, yn 1954. Ers hynny mae wedi cyhoeddi nofelau ac ysgrifau yn rheolaidd ac erbyn heddiw mae'n un o'r llenorion yn yr iaith Ffrangeg mwyaf adnabyddus o Ogledd Affrica.
Un o'i gymeriadau ffuglen mwyaf llwyddiannus yw'r Arolygydd Ali, ffigwr led-gomig y mae ei anturiaethau'n cael eu defnyddio fel cyfrwng i osod allan rhagrith gwleidyddiaeth yr oes, ym Moroco a thramor (Une enquête au pays, L’Inspecteur Ali, L'Inspecteur Ali à Trinity College, L'Inspecteur Ali et la CIA).
Yn ogystal mae Chraïbi wedi sgwennu cyfres uchelgeisiol o nofelau hanesyddol, wedi'u sgwennu'n gain iawn, ar hanes Islam yn y Maghreb ac Andalucía (La Mère du printemps, Naissance à l'aube, L'homme qui venait du passé)
Mae ei nofel fer ar fywyd y Proffwyd Mohamed, L'Homme du Livre, wedi torri tir newydd yn llenyddiaeth y byd Islamaidd.
Llyfryddiaeth
golygu- Le passé simple, Gallimard, 1954
- Les Boucs, Gallimard,1955
- L'Âne, 1956
- De tous les horizons, 1958
- La Foule, 1961
- Succession ouverte, Gallimard, 1962
- Un Ami viendra vous voir, 1967
- La Civilisation, ma mère!..., Gallimard, 1972
- Mort au Canada, 1975
- Une enquête au pays, Seuil, 1999
- La Mère du printemps, seuil, 1995
- Naissance à l'aube, 1986
- L'Homme du livre, 1995
- L'Inspecteur Ali, Gallimard
- L'Inspecteur Ali à Trinity College, Denoël, 1995
- L'Inspecteur Ali et la CIA, Denoël, 1996
- Lu, vu, entendu, Denoël, 1998
- Le Monde à côté, Denoël, 2001
- L'homme qui venait du passé, Denoël, 2004
Dolen allanol
golygu- (Ffrangeg) Pennod gyntaf Les Boucs (ffeil awdio mp3) Archifwyd 2005-10-12 yn y Peiriant Wayback