Chwaraewr Rygbi'r Undeb dîm rhanbarthol y Gweilch a Chymru yw Lee Byrne (ganed 1 Mehefin 1980. Mae'n chwarae fel cefnwr, ac wedi ennill 16 cap dros Gymru.

Lee Byrne
Ganwyd1 Mehefin 1980 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra191 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau96 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, ASM Clermont Auvergne, Y Dreigiau, Y Scarlets, Y Gweilch, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed ef yng Mhen-y-bont ar Ogwr. Bu'n chwarae i dîm rhanbarthol Scarlets Llanelli cyn symud i'r Gweilch.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn Nhachwedd 2005, yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2008, gan chwarae ymhob gêm a sgorio cais yn erbyn Lloegr a'r Eidal.