Lefel medru iaith

Gallu person i berfformio mewn iaith mae'n ei ddysgu ydy Lefel Medru Iaith. Ceir gwahanol ddiffiniadau a dulliau o fesur hyn drwy'r byd.[1] Un llinyn mesur rhyngwladol ydy'r ACTFL (The American Council on the Teaching of Foreign Languages sy'n gwahaniaethu rhwng y gallu i gofio geiriau a phatrymau a pherfformiad yr unigolyn.

Gellir graddoli pa mor rugl ydy person gyda'r lefelau canlynol:

  • Ychydig wybodaeth: Dydy gwybod ambell i air ddim ddigon i'r lefel hon. Rhaid medru digon o eirfa a phatrymau i fedru ymdopi. Rhaid gwybod geiriau ac ymadroddion cyffredin, sut i ofyn ac ateb cwestiynau syml a sut i redeg ambell i ferf hefyd.
  • Da: Mae'r unigolyn bellach yn cofio tuag wyth mil o eiriau ac yn medru rhedeg berfau yn y presennol, y gorffennol a'r dyfodol, a gallu ysgrifennu'r iaith.
  • Rhugl: Er mwyn bod yn deilwng o'r lefel hon rhaid cael geirfa llawer ehangach, a threulio o leiaf dwy flynedd mewn gwlad neu amgylchedd lle mae'r iaith yn cael ei defnyddio'n gyson.
  • Iaith gyntaf (neu famiaith): Dydy'r ffaith bod rhywun wedi ei fagu mewn iaith arbennig ddim yn golygu eu bod nhw'n gwbwl rugl, ond ar y cyfan mae hynny'n wir.

Mudiadau proffesiynol golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.ncela.gwu.edu". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-04-08. Cyrchwyd 2012-05-04.