Alliance française

Rhwydwaith fyd-eang yn hyrwyddo'r iaith a diwylliant Ffrangeg

Mae Alliance française [a] neu AF (Ffrangeg: Alliance française, ynganiad Ffrangeg: [aljɑ̃s fʁɑ̃sɛz]), yn sefydliad rhyngwladol sy'n anelu at hyrwyddo'r iaith Ffrangeg a'r diwylliant ffrancoffôn ledled y byd. Crëwyd ym Mharis ar 21 Gorffennaf 1883 dan yr enw Alliance française pour la propagation de la langue nationale dans les colonies et à l’étranger ("Cynghrair Ffrengig ar gyfer lluosogi’r iaith genedlaethol yn y trefedigaethau a thramor"), a elwir bellach yn syml fel L’Alliance française, ei phrif nod yw dysgu Ffrangeg fel ail iaith. Gyda'i bencadlys ym Mharis,[1] roedd gan y Gynghrair 850 o ganolfannau mewn 137 o wledydd ar bob cyfandir cyfannedd yn 2014.[2] Mae'r AF yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.

Alliance française
Enghraifft o'r canlynolsefydliad anllywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1883 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadDirector of Alliance Française Edit this on Wikidata
SylfaenyddLouis Pasteur Edit this on Wikidata
Isgwmni/auAlliance française de Toronto, Alliance Française de Chittagong, Biblioteca dell'Alliance Française Edit this on Wikidata
PencadlysParis Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.fondation-alliancefr.org, https://af-france.fr/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes a rôl

golygu
 
Cyhoeddiad gyntaf yr Alliance française yn 1884
 
Cyngerdd dan adain yr Alliance francaise yn Taiwan

Crëwyd yr Alliance ym Mharis ar 21 Gorffennaf 1883 gan grŵp yn cynnwys y gwyddonydd Louis Pasteur, y diplomydd Ferdinand de Lesseps, yr awduron Jules Verne ac Ernest Renan, a'r cyhoeddwr Armand Colin.

Mae'n ariannu'r rhan fwyaf o'i weithgareddau o'r ffioedd a gaiff o'i gyrsiau ac o rentu ei osodiadau. Mae llywodraeth Ffrainc hefyd yn darparu cymhorthdal sy'n cwmpasu tua phump y cant o'i chyllideb (bron i €665,000 yn 2003)

Mae mwy na 440,000 o fyfyrwyr yn dysgu Ffrangeg yn un o’r canolfannau a redir gan y Gynghrair, y mae ei rhwydwaith o ysgolion yn cynnwys:

  • canolfan ym Mharis, Alliance française Paris Île-de-France
  • lleoliadau ledled Ffrainc ar gyfer myfyrwyr tramor a
  • 1,016 o leoliadau mewn 135 o wledydd.

Mae'r sefydliadau y tu allan i Baris yn rhyddfreintiau lleol sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol. Mae gan bob un bwyllgor a llywydd. Mae brand Alliance française yn eiddo i ganolfan Paris. Mewn llawer o wledydd, cynrychiolir Alliance française Paris gan général Délégué. Mae Llywodraeth Ffrainc hefyd yn rhedeg 150 o Sefydliadau Diwylliannol Ffrengig ar wahân sy'n bodoli i hyrwyddo iaith a diwylliant Ffrainc.[3]

Mae'r Cynghreiriau yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol, megis arddangosfeydd celf, gwyliau ffilm, cynulliadau cymdeithasol, clybiau llyfrau.[4][5][6][7][8]

Sefydliadau iaith ryngwladol eraill

golygu

Mae'r Alliance Française yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Alliance Française". frenchhighereducation.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-26. Cyrchwyd 2022-05-29.
  2. The French Language Worldwide 2014 (PDF). Paris: Nathan. 2014. ISBN 978-2-09-882654-0. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-10-11. Cyrchwyd 2015-08-11 – drwy Francophonie.org.
  3. "Institut français du Royaume-Uni | French Cultural Institute in South Kensington". Institut-francais.org.uk. Cyrchwyd 2015-08-11.
  4. "Art exhibition 'River Delta' begins at Alliance Française". www.dhakatribune.com (yn Saesneg). 2023-01-09. Cyrchwyd 2023-01-12.
  5. "The San Diego French Film Festival celebrates the 7th art". French Quarter Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-12.
  6. "Alliance Francaise, partners launch human rights fresco for school children - The Point". thepoint.gm (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-12.
  7. "Que faire au mois de Janvier avec l'Alliance Française de Johannesburg". lepetitjournal.com (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2023-01-12.
  8. "Meet the Woman Helping French Culture Thrive in NYC". Avenue Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-12.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.