Leïla Ben Ali
Leïla Ben Ali (Arabeg: ليلى بن علي) (née Leïla Trabelsi, 20 Gorffennaf 1957), yw ail wraig Zine el-Abidine Ben Ali, cyn arlywydd Tiwnisia, ac felly bu'n Brif Foneddiges Tiwnisia er ei phriodas yn 1992 hyd cwymp Ben Ali ar 14 Ionawr 2011. I'w gwrthwynebwyr roedd hi'n cael ei hadnabod yn gyffredin fel "Brenhines Carthago" ("la régente de Carthage") am ei bod mor gyfoethog a phwerus ac yn ymddwyn fel aelod o deulu brenhinol.[1]
Leïla Ben Ali | |
---|---|
Ganwyd | Leïla Trabelsi 24 Hydref 1956 Tiwnis |
Dinasyddiaeth | Tiwnisia |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | First Lady of Tunisia |
Priod | Zine el-Abidine Ben Ali |
Plant | Nesrine Ben Ali |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica |
Gyrfa
golyguCafodd ei geni mewn ardal ddifreintiedig o Tunis, yng nghanol y medina. Yn ôl ei bywgraffiad swyddogol yn nyddiau rheolaeth Ben Ali, dilynodd yrfa fel coiffeuse mewn un o salons gwallt Tunis cyn priodi Ben Ali, ond yn ôl eraill "putain oedd hi"; yn sicr dyna oedd y gred gyffredin gan y cyhoedd yn Tiwnisia.[1]
Cyhuddiadau
golyguYn ôl yr ymchwilydd Ffrengig Christine Messiant, roedd priodas Leïla Ben Ali â'r cyn-arlywydd wedi caniatau i aelodau o'i theulu estynedig elwa ar ei sefyllfa trwy gael manteision economaidd.[2] Roedd hi'n cael ei chyhuddo gan wrthwynebwyr llywodraeth Ben Ali o fod yn euog o neiedd trwy adael i'w pherthnasau agos gael safleoedd clo yn yr economi a'r byd gwleidyddol. Felly bu gan ei frawd Belhassen Trabelsi sedd ar gyngor canolog yr hen blaid lywodraethol, y Rassemblement Constitutionnel Démocratique. Roedd ei chyfaill Alya Abdallah yn bennaeth Banc Tiwnisia ac roedd Belhassen Trabelsi yn aelod o gorff llywodraethol y banc hwnnw hefyd.[3]. Roedd ei chyfnither Najet Trabelsi yn gyfarwyddwraig Ysbyty Kheireddine Tunis. Fel Wassila Bourguiba, gwraig Habib Bourguiba, roedd gwraig Ben Ali yn chwarae rhan flaenllaw ar y llwyfan wleidyddol yn Tiwnisia.
Mewn un o'r dogfennau Cablegate a gyhoeddwyd gan WikiLeaks, disgrifwyd llygredd fel "cancer that is spreading spurred on by the corrupt practices of President Ben Ali and his extended family", yn cynnwys ei wraig, gyda chebl arall yn dweud fod y broblem ar ei gwaethaf yn rhengoedd uchaf y llywodraeth.[4]
Ar 16 Ionawr 2001, ddeuddydd ar ôl cwymp llywodraeth Ben Ali, adroddwyd bod Leila Ben Ali wedi cymryd 1.5 tonne o aur gyda hi pan adawodd Tiwnisia.[5]
Camrau cyfreithiol
golyguAr ôl ei gwymp ganol mis Ionawr 2011, cafwyd yr ymgais cyntaf i adennill y cyfoeth a "ysbeilwyd" o Tiwnisia gan Ben Ali a'i deulu estynedig, yn cynnwys ei wraig. Ar 17 Ionawr, ffeiliodd y cyfreithiwr Swisaidd Ridha Ajmi gais cyfreithiol i rewi pob ased o eiddo Ben Ali yn y Swistir, a dywedodd hefyd ei fod yn ceisio warantau arestio rhyngwladol yn erbyn y cyn-arlywydd, ei wraig Leila a'r cyn weinidog materion mewnol am "orchymyn yr heddlu i saethu ar brotestwyr".[6]
Ar 26 Ionawr dywedodd Lazhar Karoui Chebbi, Gweinidog Cyfiawnder Tiwnisia, fod Tiwnisia wedi cyhoeddi warant arest rhyngwladol, a'i roi i Interpol, yn galw am arestio Ben Ali, ei wraig Leïla ac aelodau eraill o'i deulu estynedig "am gael gafael ar eiddo cyhoeddus yn anghyfreithlon" ac "am drosglwyddo arian dramor yn anghyfreithlon". Cyhoeddwyd warant arall i arestio chwech aelod o'r cyn warchodlu arlywyddol, yn cynnwys ei phennaeth Ali Seriati, "am gynllwyno yn erbyn diogelwch y Wladwriaeth ac am annog trais arfog".[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 La régente de Carthage. Main basse sur la Tunisie Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback gan Nicolas Beau a Catherine Graciet.
- ↑ Christine Messiant, Premières dames en Afrique, gol. Karthala (Paris, 2004), t. 64 ISBN 9782845865783
- ↑ "Catherine Graciet, "Les Trabelsi mettent le grappin sur la Banque de Tunisie", Bakchich, 3 Mehefin 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-04. Cyrchwyd 2011-01-07.
- ↑ "Anonymous offers support to Tunisian protestors" Archifwyd 2011-01-03 yn y Peiriant Wayback, The Tech Herald, 3 Ionawr 2010.
- ↑ "Tunisie : le palais présidentiel de Carthage pris d'assaut par l'armée", Jeune Afrique, 16 Ionawr 2011.
- ↑ "Tunisia appoints national unity government amid turmoil" Archifwyd 2012-10-23 yn y Peiriant Wayback, Channel News Asia.
- ↑ "Tunis lance un mandat d'arrêt international contre Ben Ali et ses proches", France 24, 26 Ionawr 2011.
Dolenni allanol
golygu- La régente de Carthage. Main basse sur la Tunisie Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback gan Nicolas Beau a Catherine Graciet. Adolygiad. Le Blog Finance. (Ffrangeg)
- Crynodeb o gynnwys La régente de Carthage Archifwyd 2011-01-21 yn y Peiriant Wayback ar wefan Al-Nawaat. (Ffrangeg)