Sefydliad cyfryngol dielw yw WikiLeaks sy'n cynnal gwefan sy'n rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol ar yr egwyddor fod gan y cyhoedd yr hawl i wybod. Fe'i sefydlwyd ar ddiwedd Rhagfyr 2006 gan grŵp o newyddiadurwyr o sawl gwlad a ddaeth at ei gilydd yn wreiddiol dan yr enw Sunshine Press yn 1997.[1] Ers ei sefydlu mae WikiLeaks wedi tyfu'n gyflym ac wedi ennill sylw dros y byd. Ei phrif olygydd yw Julian Assange, newyddiadurwr o Awstralia.

WikiLeaks
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhyngwladol, whistleblower platform Edit this on Wikidata
CrëwrJulian Assange Edit this on Wikidata
AwdurJulian Assange Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Hydref 2006 Edit this on Wikidata
SylfaenyddJulian Assange Edit this on Wikidata
Enw brodorolWikiLeaks Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://wikileaks.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo WikiLeaks

Sensoriaeth ac ymyrraeth golygu

Gweler hefyd yr adran 'Symudiadau yn erbyn WikiLeaks ers Cablegate' isod.

Yr Almaen golygu

Cafodd cartref Theodor Reppe, cofrestrydd enw parth y WikiLeaks Almaenig, sef wikileaks.de, ei chwilio gan yr heddlu ar 24 Mawrth 2009 ar ôl i WikiLeaks ryddhau rhestr ddu sensoriaeth yr Australian Communications and Media Authority (ACMA).[2] Nid effeithwyd ar wefan WikiLeaks ei hun.

Gweriniaeth Pobl Tsieina golygu

Mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn defnyddio ei Phrosiect y Darian Euraidd (Golden Shield Project) i geisio sensrio pob gwefan gyda "wikileaks" yn ei URL, yn cynnwys y brif wefan .org a'r amrywiadau rhanbarthol .cn ac .uk. Ond mae mynediad i'r wefan ar gael er hynny trwy un o'r sawl enw amgen, fel "secure.sunshinepress.org". Mae'r gwefannau amgen hyn yn newid yn aml, ac mae WikiLeaks yn cynghori pobl i chwilio'r "wikileaks cover names" cyfredol y tu allan i Tsieina. Mae peiriannau chwilio ar dir mawr Tsieina, yn cynnwys rhai Baidu a Yahoo!, yn sensorio pob cyfeiriad at "wikileaks".[3]

Awstralia golygu

Ar 16 Mawrth 2009, ychwanegodd yr Australian Communications and Media Authority wefan WikiLeaks i'r rhestr ddu o wefannau a fydd yn cael ei blocio i bawb yn Awstralia os caiff y cynllun sensoriaeth ffiltro rhyngrwyd gorfodol ei weithredu fel y bwriedir.[4]

Y Deyrnas Unedig golygu

Ar 25 Tachwedd 2010, anfonodd yr 'UK Defence, Press and Broadcasting Advisory Committee' "Defence Advisory Notices" ("DA-Notices") i bapurau newydd yn y DU cyn cyhoeddi 250,000 o geblau a dogfennau diplomyddol cudd Americanaidd gan WikiLeaks (gweler isod).[5] Mae'r "DA-Notices" hyn yn galw ar olygyddion i beidio a chyhoeddi neu ddarlledu eitemau penodol er mwyn "amddiffyn diogelwch cenedlaethol".

Ymyrraeth a gwylio cudd honedig golygu

Yn ôl The Times, mae WikiLeaks a'i aelodau wedi cwyno am "ymyrraeth barhaol" ac am gael eu gwylio gan asiantiaethau'r gyfraith a sefydliadau gwybodaeth gudd. Mae hyn yn cynnwys cael eu dal am gyfnodau estynedig, meddiannu cyfrifiaduron, bygythiadau, a “covert following and hidden photography".[6]

Facebook golygu

Yn y gorffennol, mae WikiLeaks wedi honni fod Facebook wedi dileu ei thudalen gefnogwyr o'r wefan rwydeithio cymdeithasol honno.[7] Erbyn hyn (Rhagfyr 2010) ceir tudalen arall yn ei le.

Datgeliadau golygu

Rhyfeloedd Irac ac Affganistan golygu

Ym 2010, cyhoeddodd gwefan WikiLeaks ddau set o ddogfennau cyfrinachol sy'n datgelu gwybodaeth am weithgareddau Byddin yr Unol Daleithiau yn y rhyfeloedd yn Affganistan ac Irac. Mae'r dogfennau cyntaf yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol am y Rhyfel yn Affganistan. Mae'r ail, a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2010, yn cynnwys 391,832 adroddiad ("The Iraq War Logs") gan filwyr Americanaidd am Ryfel Irac am y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2004 hyd 31 Rhagfyr 2009. Cafodd y wybodaeth ei rhyddhau i WikiLeaks gan ffynhonnell anhysbys yn y Pentagon. Ceir manylion am 109,032 o farwolaethau yn Irac, sy'n cynnwys marw 66,081 o 'sifilwyr'; 23,984 o'r 'gelyn' ('gwrthryfelwyr'); 15,196 o bobl yn lluoedd llywodraeth Irac a 3,771 o farwolaethau milwyr 'cyfeillgar' (lluoedd y Cynghreiriaid, Americanwyr yn bennaf).[8][9]

"Cablegate" golygu

Prif: Cablegate

Ar 22 Tachwedd 2010, cyhoeddwyd ar drydar Wikileaks y byddai'r datguddiad nesaf yn "7 gwaith maint yr Iraq War Logs." Ar 28 Tachwedd, cyhoeddodd Wikileaks fod ei gwefan yn dioddef "Distributed Denial-of-service attack" anferth[10], ond gaddodd y byddai'n dal i ryddhau gasgliad mawr o geblau a dogfennau diplomatig o eiddo llywodraeth yr Unol Daleithiau trwy gytundeb rhagllaw gyda'r papurau newydd El País (Sbaen), Le Monde (Ffrainc), Der Spiegel (Yr Almaen), The Guardian (DU), a'r New York Times (UDA). Yn fuan wedyn, cyhoeddodd y Guardian rhai o'r dogfennau hynny, yn cynnwys un lle mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton yn gorchymyn i ddiplomyddion Americanaidd gael manylion cardiau credyd, cyfrineiriau ebost a gwybodaeth bersonol arall am gynrychiolwyr Ffrainc, y DU, Rwsia a Tsieina yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â gwybodaeth gyffelyb am staff blaenllaw y CU ei hun, yn cynnwys yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Datgelwyd hefyd fod cynghreiriaid Arabaidd yr Unol Daleithiau yn Arabia, yn cynnwys brenin Sawdi Arabia, wedi galw ar America i ymosod ar Iran, bod llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn cymryd rhan mewn hacio cyfrifiadurau, a bod taflegrau Americanaidd yn taro targedau "terfysgol" yn Iemen er bod llywodraeth y wlad honno, mewn cytundeb gyda'r Americanwyr, yn dweud yn gyhoeddus mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau hynny.[11]

Mewn ymateb i'r datgeliadau, galwodd un cyngreswr Americanaidd, Peter T. King am enwi WikiLeaks yn "sefydliad terfysgol". Dywedodd Hilary Clinton fod y datgeliadau yn "ymosodiad ar y gymuned ryngwladol". Cafwyd bygythiadau niferus i lofruddio Julian Assange, aelodau o'i deulu, cyfreithwyr a staff WikiLeaks.[12] Rhoddodd y seneddwr Americanaidd John Ensign symudiad o flaen y senedd yn ceisio cyhoeddi WikiLeaks yn "fygythiad trawswladol" ("transnational threat") a chafwyd galwadau i asasineiddio Assange gan Marc Thiessen yn y Washington Post, Bill O'Reilly (sy'n gweithio i Fox News) ac eraill.[12]

Symudiadau yn erbyn WikiLeaks ers Cablegate golygu

Ers iddo ddechrau cyhoeddi'r dogfennau "Cablegate" ar 28 Tachwedd 2010 mae Wikileaks wedi wynebu sawl cais i dynnu'r wefan i lawr ac atal ei weithgareddau.

28 Tachwedd golygu

Cafwyd y cyntaf o sawl ymosodiad DDoS anferth yn erbyn gwefan swyddogol WikiLeaks.

1 Rhagfyr golygu

Ataliodd cmwni Tableau Software y defnydd o'i feddalwedd delweddu gan wefan WikiLeaks. Cyfaddefodd llefarydd ar ran y cwmni i hyn ddigwydd ar gais gan y Seneddwr Joe Lieberman, seneddwr annibynnol gyda chysylltiadau clos â'r Blaid Ddemocrataidd. Galwodd Liebermann ar bob cwmni a busnes i dorri ei gysylltiad â WikiLeaks.[13]

Ataliodd Amazon ddefnydd WikiLekas o'i wasanaeth EC2 cloud.[13]

3 Rhagfyr golygu

Tynnod EveryDNS.com (UDA) brif wefan WikiLeaks (Wikileaks.org) o'i wasanaeth gyda'r canlyniad nad oedd yn bosibl ei chyrraedd. Dywedodd EveryDNS iddynt wneud hynny am fod ymosodiadau DDoS yn effeithio ar ei system. Symudodd WikiLeaks i'w parth wrth gefn yn y Swistir, sef wikileaks.ch.[13]

Ar yr un pryd yn Ffrainc, ysgrifennodd Eric Bresson at gwmniau rhyngrwyd Ffrengig yn eu rhybuddio i beidio hostio WikiLeaks a rhybuddiodd y byddai "ganlyniadau" yn wynebu unrhyw gwmni a anwybyddai'r rhybudd.[13]

4 Rhagfyr golygu

Terfynnodd PayPal, a berchnogir gan eBay, ei gytundeb gyda WikiLeaks. Mewn canlyniad atalwyd cefnogwyr rhag gyfrannu arian. Fel cyfiawnhad, dywedodd "[it] cannot be used for any activities that encourage, promote, facilitate or instruct others to engage in illegal activity."[13]

Daeth y cwmni Swisaidd Switch dan bwysau aruthrol gan lywodraethau Ffrainc ac UDA i atal cynnal gwefannau WikiLeaks, ond gwrthododd.[13]

5 Rhagfyr golygu

Terfynnodd y cwmni Ffrengig OVH ei wasanaeth rhyngrwyd i WikiLeaks. Newidiodd WikiLeaks i'r cwmni Swedaidd y Pirate Party.[13]

6 Rhagfyr golygu

Terfynnodd MasterCard ei wasanaeth. Dywedodd llefarydd "MasterCard is taking action to ensure that WikiLeaks can no longer accept MasterCard-branded products."[13]

Daeth gwasanaethyddion rhyngrwyd WikiLeaks yn Sweden dan ymosodiad DDoS anferth.[13]

Rhewodd PostFinance, gwasanaeth post y Swistir, gyfrif personol Julian Assange ar "technicality".[13]

7 Rhagfyr golygu

Ataliodd cwmni cardiau credyd VISA ei wasanaethau i WikiLeaks. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni "Visa Europe has taken action to suspend Visa payment acceptance on WikiLeaks' website pending further investigation into the nature of its business and whether it contravenes Visa operating rules."[13]

18 Rhagfyr golygu

Cyhoeddodd y Bank of America ei fod yn atal pobl rhag cyfrannu arian i WikiLeaks "am resymau polisi mewnol."

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "About Us" Archifwyd 2010-10-25 yn y Peiriant Wayback., gwefan WikiLeaks.
  2. [https://web.archive.org/web/20150926004451/http://www.translate.google.com/translate?js=y&prev=_t&hl=en&ie=UTF-8&u=http%3A%2F%2Fwww.heise.de%2Fnewsticker%2FHausdurchsuchung-bei-Inhaber-der-Domain-wikileaks-de-Update--%2Fmeldung%2F135147&sl=auto&tl=en&history_state0=auto Archifwyd 2015-09-26 yn y Peiriant Wayback. "Hausdurchsuchung bei Inhaber der Domain wikileaks.de [Search of owner of the domain wikileaks.de]".
  3. "Is Wikileaks blocked by the Chinese government?". WikiLeaks. 2008. Archif .
  4. ""Banned hyperlinks could cost you $11,000 a day"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-13. Cyrchwyd 2010-11-29. Melbourne: The Age. 16.03.2009.
  5. ""Wikileaks: UK issues DA-Notice as U.S. briefs allies on fresh leak"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-02. Cyrchwyd 2010-11-29. Index on Censorship. 26.11.2010.
  6. ""Whistleblowers on U.S. 'massacre' fear CIA stalkers"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-30. Cyrchwyd 2010-11-29., The Times, 11.04.2010.
  7. ""WikiLeaks claims Facebook deleted its page, 30000 fans"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-30. Cyrchwyd 2010-11-29. News.com.au. 21.04.2010.
  8. "WikiLeaks". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-25. Cyrchwyd 2010-10-25.
  9. "Adroddiadau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-19. Cyrchwyd 2010-10-25., WikiLeaks.
  10. ""Wikileaks 'hacked ahead of secret US document release'"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-27. Cyrchwyd 2010-11-29. BBC News, 28 Tachwedd.
  11. "US diplomats spied on UN leadership". The Guardian. [1]. 2010-11-29.
  12. 12.0 12.1 "Cyfweliad gyda Julian Assange". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-21. Cyrchwyd 2021-02-23., El País, 05.12.2010.
  13. 13.00 13.01 13.02 13.03 13.04 13.05 13.06 13.07 13.08 13.09 13.10 ""Wikileaks under attack: the definitive timeline"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-29. Cyrchwyd 2010-12-08., The Guardian, 07.12.2010.

Dolenni allanol golygu

Sylwer: efallai na fydd rhai o'r dolenni WikiLeaks hyn yn gweithio gan fod y wefan wedi gorfod symud ei gwasanaethyddion sawl gwaith oherwydd Cablegate.

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.