Leila Salisbury

llenor

Athrawes ac awdur yw Leila Salisbury.[1]

Leila Salisbury
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Ganwyd Leila yng Nghaerdydd ac fe'i magwyd yn Llangynog ger Caerfyrddin. Mae'n chwaer i'r bardd Eurig Salisbury.

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin cyn mynd i Brifysgol Bangor lle y graddiodd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth. Astudiodd alawon gwerin Iolo Morganwg ar gyfer ei gradd MPhil, sy'n sail i'r gyfrol, Alawon Gwerin Iolo Morganwg cyhoeddwyd gan Gymdeithas Alawon Gwerin yn 2012.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 9780953255573". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Leila Salisbury ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.