Eurig Salisbury

Bardd a darlithydd o Gymro

Bardd a darlithydd prifysgol Cymreig yw Eurig Salisbury (ganed Caerdydd, 1983).

Eurig Salisbury
Eurig Salisbury yn 2010
Ganwyd1983 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Magwraeth a choleg golygu

Magwyd Eurig Salisbury ym mhentref Llangynog, Sir Gaerfyrddin. Bu’n ddisgybl yn Ysgol y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Dysgodd ei hun i ysgrifennu cynghanedd pan oedd yn dair-ar-ddeg oed, gyda chymorth cyfrol Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd.[1] Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004, a gradd MPhil ar ganu cynnar Guto'r Glyn yn Adran y Gymraeg yn 2006.[2]

Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fe’i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle cyfrannodd at dri phrosiect arloesol ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, cyn ei benodiad, yn 2015, yn Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.[2]

Bardd golygu

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2006. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Llyfr Glas Eurig yn 2008, a chyfrol o gerddi i blant, Sgrwtsh! yn 2011. Cafodd ei ddewis gan Gyfnewidfa Lên Cymru i fod yn rhan o Gadwyn Awduron Cymru–India yn 2010–12 a bu'n cydweithio gyda beirdd o is-gyfandir India a Chymru mewn gweithdai cyfieithu creadigoil.[1] Ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–13. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 gyda'i nofel Cai.

Mae’n aelod o dîm y Glêr ar raglen Talwrn y Beirdd, BBC Radio Cymru, ac o dîm Sir Gâr yn Ymryson y Beirdd. Ef yw Golygydd Cymraeg cylchgrawn Poetry Wales.

Llyfryddiaeth golygu

  • (gydag eraill) Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
  • Ar Drywydd Guto'r Glyn ap Siancyn y Glyn (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007)
  • Llyfr Glas Eurig (Cyhoeddiadau Barddas, 2008)
  • (gol., gyda Barry J. Lewis) Gwaith Gruffudd Gryg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2011)
  • Sgrwtsh! (Gwasg Gomer, 2011)
  • (gol.) Buarth Beirdd: Ymatebion Beirdd Cyfoes i Lawysgrifau Cynharaf yr Iaith Gymraeg (Cyhoeddiadau Barddas, 2014)
  • Cai (Gwasg Gomer, 2016)
  • (gyda Sampurna Chattarji) Lle Arall Ble Arall / Elsewhere Where Else (Paperwall Media, 2018)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Eurig Salisbury"; Cyfnewidfa Lên Cymru, adalwyd 9 Medi 2018
  2. 2.0 2.1 "Eurig Salisbury'n ennill y Fedal Ryddiaith eleni"[dolen marw]; Eisteddfod Cymru, adalwyd 9 Medi 2018

Dolenni allanol golygu