Awdures o Rwsia yw Lena Hades (Rwsieg: Лена Алексеевна Хейдиз; ganwyd 2 Hydref 1959) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd. Mae ei theulu o darddiad Iddewig. Fe'i cysylltir yn gryf gyda'r llyfr: Hefyd Siaradodd Zarathustra gan Friedrich Nietzsche (1844 – 1900).

Lena Hades
Ganwyd2 Hydref 1959 Edit this on Wikidata
Kemerovo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Prifysgol y Wladwriaeth, Moscaw Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAlso sprach Zarathustra Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lenahades.co.uk/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Kemerovo ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Wladwriaeth, Moscaw.

Magwraeth a marwolaeth ei thad golygu

Ganwyd Lena Hades yn Siberia, tra roedd ei thad ar daith gyda'i waith, ar ddiwrnod diffyg ar yr haul llawn, 2 Hydref 1959. Roedd ei thad yn gweithio fel peiriannydd cyfathrebu ac roedd ei mam yn feddyg. Yn 35 oed aeth ei thad yn sâl â sglerosis ymledol a bu farw yn 51 oed. Yn y cyfnod o salwch cymerodd Lena, ei ferch, ofal ohono tan ddiwrnod ei farwolaeth, 17 Ionawr 1985. Cafodd yr atgofion am ei thad a'i fywyd trasig effaith fawr ar Lena. Clefyd y tad a ysgogodd ei diddordeb yn y cysyniad o farwolaeth, a hefyd ym mhroblemau athronyddol bodolaeth - prif bynciau ei gweithiau creadigol.[1]

Coleg golygu

Graddiodd Lena Hades o Brifysgol Addysgeg y Wlad, Moscfa ym 1982 (Cyfadran Ffiseg a Mathemateg), a chwblhaodd gyrsiau iaith dramor uwch hefyd (Sbaeneg, Eidaleg, Pwyleg, Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg), gan weithio fel cyfieithydd am nifer o flynyddoedd.

 
Un o baentiadau olew Lena Hades (Лена Хейдиз), sef "Химера загадочной русской души" (Chimera enaid dirgel Rwsia).

Yr arlunydd golygu

Yn 35 oed, penderfynodd ddod yn arlunydd, ac ym 1995 gadawodd am yr Almaen. Yno, yn Gwlen creodd ei gweithiau celf cyntaf gan werthu ei llun cyntaf.[1] Ym 1995–1997 creodd fwy na 30 o baentiadau, wedi'u neilltuo i Also sprach Zarathustra: Ein Buch für Alle und Keinen, (cyfieithiad Saesneg: "Thus Spoke Zarathustra") gan Nietzsche. Iddi hi, trosiadau gweledol yw ei gwaith, nid darluniau'n unig.[2]

Mae'r gyfres o baentiadau "Felly y Siaradodd Zarathustra" yn unigryw, "gan nad oes cynrychiolaeth fwy pwerus, darluniol, clir a chywir o ymadroddion aphoristig yn y byd na'r un hon", yn ôl y beirniaid celf.[3] Yn 1997 arddangoswyd y paentiad olew a'r casgliad hyn yn Sefydliad Athroniaeth Academi Gwyddorau Rwsia. Yn 2004 cyhoeddodd Academi Gwyddorau Rwsia rifyn dwyieithog o "Felly y Siaradodd Zarathustra" gan Nietzsche - yn Rwsieg ac Almaeneg. Mae clawr a siaced y llyfr wedi'u haddurno â dau lun gan Lena Hades. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys ugain o weithiau eraill o'r cylch hwn. Mae ei phaentiadau heddiw i'w gweld mewn casgliadau yn Amgueddfa Celf Fodern Moscaw, Amgueddfa celf gyfoes Igor Markin, Amgueddfa Pushkin, Oriel y Wladwriaeth Tretyakov a mannau eraill.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Встреча с Леной Хейдиз [Artists: Lena Hades] (yn Rwseg). Site Nietzsche.ru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 3, 2011. Cyrchwyd Hydref 15, 2003. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Так (не) говорил Заратустра – параллельная программа 1 Московской биеннале [Artists: Lena Hades] (yn Rwseg). Museums News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2005. Cyrchwyd 2005-02-03. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Так (не) говорил Заратустра – параллельная программа 1 Московской биеннале [Artists: Lena Hades] (yn Rwseg). Museums News. Cyrchwyd 2005-02-03.