Lerpwl (Carchar EM)

Carchar fictorianaidd yn ardal Walton o Lerpwl yw Carchar Ei Mawrhydi, Lerpwl a adnabyddwyd gynt fel Carchar Walton, sy'n gwasanaethu talgylch Glannau Merswy catchment. Adeiladwyd ym 1855 ar dir hen garchar a oedd yn llai, heddiw, mae 22 acer ac wyth adain i'r carchar.[1]

Lerpwl (Carchar EM)
Mathcarchar Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1855 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Lerpwl, Walton Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.4579°N 2.9698°W Edit this on Wikidata
Map

Roedd Carchar Walton yn lleoliad i 62 o dienyddiad ynadol, rhwng 1887 ac 1964. Y ddienyddiad olaf yn y carchar oedd dienyddiad Peter Anthony Allen. Cyhuddwyd ef a'i cyd-droseddwr, Gwynne Owen Evans, o lofruddio John Alan West yn Ebrill 1964. Crogwyd y ddau yn gydamserol ar 13 Awst 1964; crogwyd Allen yng Ngharchar Walton, ac Evants yn Strangeways, Manceinion.[2]

Mae carchar Lerpwl yn cynnig addysg a chyrsiau hyfforddi yn ogystal â gweithfeydd a rhaglenni sydd wedi eu trefnu gan Adran Seicoleg y carchar. Mae Cynllun Gwrandawyr, sy'n cael ei gefnogi gan y Samaritans, yn gweithredu ar gyfer carcharwyr sydd yn beryg o hunan-ladd neu hunan-anafu. Mae hefyd uned Ailanheddiad sy'n cynnwys Uned Cynghori Dinasyddion, Connexions a Canolfan Gwaith Plws. Comisiynir y gwasanaethau iechyd gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Lerpwl. Agorwyd gwasanaeth gofal sylfaenol newydd ar gyfer cleifion mewnol ym is Gorffennaf/awst 2007, gyda 28 o wlau[1]

Roedd poblogaeth o 1443 yn y carchar yn Awst 2008, hon yw carchar ail fwyaf Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi ar ôl CEM Wandsworth. Mae'n derbyn carcharorion sy'n disgwyl eu achos llys a throseddwyr.[1]

Cyfeiriadau

golygu