Lewis Byford
Roedd Lewis Byford neu Lewis ab Ieuan yn Esgob Bangor rhwng 1404 a 1407 ac yn un o gefnogwyr Owain Glyn Dŵr.[1]
Lewis Byford |
---|
Bywgraffiad
golyguCafodd addysg prifysgol, a threuliodd gyfnod hir yn Rhufain yng ngwasanaeth y pab cyn iddo gael ei enwebu'n Esgob Bangor gan y pab yn Awst 1404. Yn Ebrill 1405 cofnodir fod Coron Lloegr wedi meddiannu'r elw o blwyf Byford yn Swydd Henffordd, oherwydd fod Lewis wedi ymuno ag Owain Glyn Dŵr. Aeth ar neges i'r Alban dros Owain gyda John Trefor, Esgob Llanelwy, yn 1406.[1]
Cofnodir iddo gael ei gymeryd yn garcharor ym Mrwydr Bramham Moor yn mis Chwefror 1408, pan gafodd Iarll Northumberland, oedd wedi gwrthryfela a gwneud cytundeb ag Owain, ei orchfygu a'i ladd gan fyddin y brenin.[1]