Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

nofelydd, hanesydd lleol

Rhybudd: Ni ddylid cymysgu Lewis Davies y Cymer a Lewis Davies ('Lewis/Lewys Glyn Cynon'; 1866-1953) o Ynysowen (Merthyr Vale).

Lewis Davies
Ganwyd18 Mai 1863 Edit this on Wikidata
Hirwaun Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mai 1951 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur plant Edit this on Wikidata

Awdur llyfrau Cymraeg i blant o Forgannwg oedd Lewis Davies (18 Mai 186318 Mai 1951), a elwir fel arfer yn 'Lewis Davies y Cymer'.[1]

Bywyd a gwaith llenyddol

golygu

Ganed Lewis Davies ar yr Hirwaun, ger Aberdâr yn 1863. Roedd yn athro ysgol yn Y Cymer am ran haelaeth ei yrfa ond dechreuodd fel gwas fferm a gweithiodd am gyfnod yng ngwaith haearn Crawshay yn yr Hirwaun hefyd.

Ysgrifennodd bedair nofel i blant. Lleolir y nofelau antur hyn yn ardal lofaol De Cymru ac fe'u nodweddir gan y darlun cofiadwy a geir ynddynt o fywyd y glowyr yno ar droad y 19g. Defnyddia'r awdur dafodiaith y Cymoedd ac mae hynny'n ychwanegu at ddiddordeb ei waith. Ef yw awdur Bargodion Hanes hefyd, cyfrol o straeon rhamantaidd am ddigwyddiadau yn hanes Cymru.

Ei fab, Gwyn Lewis Davies ('Ap Lewsyn')', oedd croeseiriwr Y Dinesydd am 17 mlynedd, hyd 1997. Mae rhai o bapurau Gwyn Lewis Davies a'i dad yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

golygu

Nofelau plant

golygu

Straeon

golygu
  • Bargodion Hanes (1924)
  • Ystorïau Siluria

Ffeithiol

golygu

Cambridge County Geographies-Radnoshire

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Ffynhonnell

golygu
  • Mairwen a Gwynn Jones, 'Lewis Davies (Y Cymmer)', Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983), tt. 129-31.