Lewsyn yr Heliwr (nofel)

nofel hanesyddol i blant

Nofel gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)[1] yw "Lewsyn yr Heliwr". Bu'r nofel yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol, Caernarfon, 1921. Cyhoeddwyd y nofel gan Hughes a'i Fab Wrecsam ym 1922.[2] Mae'r stori yn seiliedig ar ddigwyddiadau Terfysg Merthyr 1831. Yn ôl yr awdur :

Lewsyn yr Heliwr
Enghraifft o'r canlynolnofel hanesyddol Edit this on Wikidata
AwdurLewis Davies Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1922 Edit this on Wikidata
CymeriadauLewis Lewis, Dic Penderyn Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiWrecsam Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Ergyd yr Ystori hon yw portreadu i ieuenctid yr ugeinfed ganrif gyflwr cymdeithas yn Neheudir Cymru yn nyddiau olaf y Coach Mawr lai na chanrif yn ôl; ac yn enwedig i ddangos prinder yr addysg, caledi'r amgylchiadau a gerwinder cyfraith y wlad yn y cyfnod hwnnw.

Lewsyn yr Heliwr golygu

Cymeriad hanesyddol Lewis Lewis, Lewsyn yr Heliwr (1793 -6 Medi 1847)[3] yw arwr y nofel. Prin iawn yw'r gwybodaeth sydd ar gael am y dyn go iawn. Mae cofnod o'i fedydd yn Eglwys blwyf Penderyn ym 1793, sy'n nodi bod ei dad yn gigydd o'r enw Jenkin Lewis. Roedd o'n gweithio fel haliwr (un yn cludo nwyddau o le i le) a dyna sydd yn gyfrifol am ei ffug enw, dim i'w gwneud efo hela. Cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth am ei ran arweiniol yn nherfysg Merthyr 1831. Cafodd y ddedfryd ei gyfnewid i alltudiaeth am oes i Awstralia. Fe fu'n gweithio fel glöwr yn Awstralia a bu farw yno ym 1847[4]

Gan fod cyn lleied yn wybyddus am y cymeriad hanesyddol, rhaid derbyn mae dychymyg yr awdur yw bron popeth yn y llyfr.

Cymeriadau golygu

  • Lewsyn Lewis, sy'n cael ei adnabod fel Lewsyn yr Heliwr, oherwydd ei ddawn i hela adar ac anifeiliaid, neu Lewsyn Bodiced gan ei fod yn fab i un o swyddogion ystâd fwyaf y cylch,—Bodwigiad.
  • Beti Williams, unig ferch fferm Hendrebolion, Penderyn. Cyfaill ysgol ac wedyn cariad Lewsyn
  • Mari Jones, cyfaill ysgol gorau Beti a chariad, Gruff, brawd Beti.
  • Shams Harris o'r Pompran, cyfaill ysgol gorau Lewsyn ac un o'i gyd derfysgwyr ym 1831.
  • Y Sgweier, perchennog ystâd Bodwigiad. Roedd yna gred, gwbl ddi-sail, bod y Lewsyn hanesyddol wedi ei achub o'r crocbren oherwydd ei fod yn fab anghyfreithlon un o'r gwŷr tiriog mawr.)[3] Er nad yw'r awdur yn mynd i fanylder am beth mor anaddas i lyfr plant â phlentyn siawns, mae o'n awgrymu bod yna sïon yn y cylch am y rheswm pam bod Sgweier Bodwigiad yn ymdrin â Lewsyn y nofel mewn modd tadol iawn!

Penodau golygu

Mae gan y nofel 27 o benodau, ond pob un yn fer yn cynnwys tua mil o eiriau'r un. Mae teitlau'r penodau yn cael eu sillafu yn orgraff y cyhoeddwr, fel y maent yn cael eu sillafu yn y llyfr. Mae clecio'r dolenni yn mynd i drawsgrifiad o'r bennod ar Wicidestun.

Trosolwg golygu

Mae'r llyfr yn agor gyda phennod gyflwyniadol sy'n dweud bod yr adroddwr wedi clywed holl hanesion Lewsyn a'i gyfeillion o atgofion ei fam o'i hen fam-gu, Mari Jones, un o brif gymeriadau'r stori.

Mae'r stori yn agor gyda hanes Mari, Beti, Lewsyn a Shams, yn dod yn gyfeillion yn Ysgol Gwern Pawl, Penderyn. Mae'n rhoi disgrifiad o'r bywyd tlawd a'r diwylliant Cymraeg oedd yn bodoli yn yr ardal wledig o Sir Frycheiniog a oedd yn cyffinio ag ardaloedd diwydiannol Sir Forgannwg ar ddechrau'r 19G.

Mae'r plant yn gadael yr ysgol. Beti am fod ei rieni yn farw o'r frech wen a hithau'n gorfod cadw tŷ i'w brodyr. Mari i edrych ar ôl ei thad meddw. Mae Shams yn cael swydd fel gwas gof a Lewsyn i ddod yn was helfa'r sgweier. Am reswm sydd dim yn cael ei ddatgelu mae Lewsyn yn colli ei swydd yn yr helfa dan gwmwl, ac yn symud i Ferthyr i gael gwaith yn un o ddiwydiannau'r dref.

Yn y bennod "Gwaed, neu Fara!" rhodir cefndir i'r tlodi a chaledi oedd yn achosi anghydfod rhwng y gweithwyr a'r meistri ym Merthyr.

Yn y flwyddyn 1831, yr oedd sefyllfa pethau yng ngwlad yr haearn a'r glo yn waeth nag y bu yng nghof neb-yr hur yn llai, y nwyddau yn brinnach, a'r dyledion yn myned yn drymach, drymach.

Un o'r rai sy'n annog y dorf i chwildro ym Merthyr yw Lewsyn yr Heliwr. Mae o'n arwain torf i westy'r Castle lle mae'r meistri yn ymgynnull i drafod sut i ddod a'r gweithwyr i drefn. Yno mae'n llwyddo i ddiarfogi'r milwyr sy'n gwarchod y gwesty ac i rannu'r arfau rhwng y protestwyr. Yn y cythrwfl rhwng y milwyr a'r gweithwyr cafodd un o'r milwyr yn ei ladd. Beiwyd Dic Penderyn am ladd y milwr gan yr awdurdodau.

Roedd y terfysg wedi effeithio ar y pentrefi gwledig tu allan i Ferthyr hefyd. Bu ymgais i atal milwyr atgyfnerthol rhag cyrraedd Merthyr trwy eu rhwystro ar y Bannau. Mae torf yn ceisio atal y goets fawr ger tafarn Y Lamb ym Mhenderyn. Mae Shams yn un o'r rai sy'n neidio ar y goets ac yn ymladd efo'r gard.

Wedi i'r awdurdodau adfer trefn ym Merthyr, maent yn dechrau chwilio am arweinwyr y terfysg. Mae Lewsyn yn mynd ar ffo i'w hen gynefin yng nghefn gwlad Sir Frycheiniog. Wrth iddi fynd o amgylch ei dyletswyddau plygeiniol ar y fferm mae Betsi yn cynnig lloches iddo yn un o siediau Hendrebolion. Mae hi'n ei fwydo fo am bedwar diwrnod. Ar y pedwerydd dydd mae swyddogion y gyfraith yn cyrraedd Hendrebolion ac yn mynnu lletya yno tra eu bod yn chwilio'r ardal am y ffoadur. Mae Beti, o'r herwydd, yn methu mynd a bwyd a diod i Lewsyn. Yn sychedig ac wedi llwgu mae Lewsyn yn dod o'i guddfan ac yn cael ei ddal.

Mae Beti a Mari yn poeni am yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd i Lewsyn. Gan wybod am deimladau'r Sgweier am yr hogyn maen nhw'n mynd i ofyn ei gyngor am be i wneud yn ei gylch. Mae'r Sgweier yn addo cyflogi bargyfreithiwr iddo. Mae o hefyd yn cynnig llety i'r merched yng Nghaerdydd tros gyfnod yr achos.

Yn y llys mae Shams yn cael ei ganfod yn ddieuog o geisio rhwystro'r goets fawr, wedi i'w gyd amddiffynnydd dweud mai ceisio arbed y goets rhag damwain oeddynt wedi i'r ceffylau cael eu dychryn gan y dorf. Mae rhai o'r mân gyfranwyr eraill i'r terfysg yn cael eu dedfrydu i alltudiaeth am 5 mlynedd. Mae Dic Penderyn yn cael y gosb eithaf am ladd y milwr. Yn achos Lewsyn mae Gruff, brawd Beti a chariad Mari, yn cael ei alw yn dyst gan fod y cyhuddedig wedi ei ddal ar ei dir ef. Mae o'n rhoi gair da dros Lewsyn. Mae Lewsyn yn egluro nad oedd ganddo ddewis ond i brotestio gan ei fod ef a'i gyd weithwyr yn llwgu. Mae o hefyd yn cael ei ddedfrydu i'w grogi.

Ar ôl yr achos mae'r Sgweier yn mynd i Lundain i geisio cael trugaredd i Lewsyn. Ym mhen ychydig mae'n dychwelyd i roi gwybod i'r merched ei fod wedi perswadio'r awdurdodau i gyfnewid dedfryd marwolaeth Lewsyn i un o alltudiaeth i Awstralia am oes. Yn falch nad oedd am ei grogi mae ei gyfeillion yn dal yn drist na welent mohono eto. Mae'r Sgweier yn addo i barhau i ymgyrchu am ryddid i Lewsyn i ddychwelyd adref.

Wedi cyrraedd Awstralia mae Lewsyn yn cael ei roi mewn gang llafur. Yn hytrach na gwneud llafur caled, mae Lewsyn yn cael ei ddewis i fod yn was tŷ i'r meistr a'i deulu. Mae'r troseddwyr eraill yn y gang yn eiddigeddus am ei sefyllfa freintiedig ac yn cynllunio i ladd Lewsyn y meistr a'i wraig ac i herwgipio merch fach y meistr. Wedi cael gwybod am y cynllun mae Lewsyn yn llwyddo atal yr ymosodiad ac yn achub teulu'r meistr. Fel diolch am ei ddewrder mae o'n cael pardwn am ei drosedd a mordaith rad cartref.

Wedi cyrraedd Llundain mae o'n dal coets fawr i dde Cymru ac yn canfod mae Shams yw'r gyrrwr. Mae'n cael aduniad a'i hen gyfaill. Ar ôl cael nifer o anturiaethau gyda Shams mae o'n dychwelyd i Benderyn ac yn cael aduniad efo'i chyfeillesau. Mae o'n gofyn i Beti am ei briodi. Mae Beti a Lewsyn a Mari a Gruff yn cael priodas dwbwl ac yn cael gwledd i ddathlu'r achlysur ym mhlasty’r Sgweier.

Cyfeiriadau golygu

  1. DAVIES, LEWIS; 1863 - 1951), nofelydd, hanesydd lleol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 10 Meh 2022
  2. "DAVIES, L. (1922). Lewsyn yr heliwr: ystori yn disgrifio bywyd Cymreig. Wrecsam, Hughes a'i Fab". www.worldcat.org. Cyrchwyd 2022-06-10.
  3. 3.0 3.1 LEWIS, LEWIS ('Lewsyn yr Heliwr ' neu ' Lewys Shanco Lewis '; 1793 - ?). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 10 Meh 2022
  4. Australian Convict Records Lewis Lewis