Lidia Thorpe
Gwleidydd annibynnol brodorol o Awstralia yw Lidia Alma Thorpe (ganwyd 18 Awst 1973). Mae hi wedi bod yn seneddwr a fu'n cynrychioli Etholaeth Fictoria ers 2020 a hi yw seneddwr cynfrodorol cyntaf y dalaith honno. Bu’n aelod o blaid Gwyrddion Awstralia tan Chwefror 2023 pan roddodd y gorau i’r blaid oherwydd anghytundebau ynghylch y corff arfaethedig 'Llais Cynhenid' i'r Senedd,[1] a daeth yn ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch "Na blaengar" ar gyfer refferendwm Llais yn Hydref 2023.[2] Gwasanaethodd hefyd fel dirprwy arweinydd y Gwyrddion yn y Senedd rhwng Mehefin a Hydref 2022.
Lidia Thorpe | |
---|---|
Ganwyd | 18 Awst 1973 Carlton |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Gynulliad Deddfwriaethol Victoria, Aelod o Senedd Awstralia |
Plaid Wleidyddol | Plaid Werdd Awstralia yn Victoria, Plaid Werdd Awstralia |
Perthnasau | Alma Thorpe |
Gwefan | https://greens.org.au/vic/person/lidia-thorpe |
llofnod | |
Ar 21 Hydref 2024, fe waeddodd Thorpe ar Charles III "Nid eich gwlad chi yw hon, nid chi yw fy Mrenin" a gwneud honiadau fod Prydain yn euog o hil-laddiad yn erbyn "ein pobl", ar ôl iddo orffen anerchiad yn Senedd-dy Awstralia, fel rhan o'i ymweliad brenhinol ag Awstralia. Wrth iddi gael ei hebrwng i ffwrdd gan staff diogelwch, clywyd hi yn gweiddi "Ffwciwch y Coloni!"[3][4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kolovos, Benita; Karp, Paul (6 Chwefror 2023). "Senator Lidia Thorpe quits Greens party to pursue black sovereignty". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2023. Cyrchwyd 6 Chwefror 2023.
- ↑ Farmilo, Kathleen (7 Hydref 2023). "These progressive No campaigners are looking beyond the vote. Here's what they want". The Feed, SBS News.
- ↑ Watson, Katy; Relph, Daniela (2024-10-21). "Not my King, Australian senator shouts at Charles". BBC News. Cyrchwyd 2024-10-21.
- ↑ Lyons, Kate; Middleton, Karen (2024-10-21). "King Charles heckled by Indigenous senator Lidia Thorpe at Australia's Parliament House". The Guardian. Cyrchwyd 2024-10-21.