Lillian Dove Willcox

ymgyrchydd dros hawliau merched

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Lillian Dove Willcox (1875 – 1963) a oedd yn un o gefnogwyr ac amddiffynwyr mwyaf selog Emmeline Pankhurst.

Lillian Dove Willcox
Ganwyd1875 Edit this on Wikidata
Bedminster Edit this on Wikidata
Bu farw1963 Edit this on Wikidata
Ealing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata

Ganwyd Dove-Willcox yn Bedminster, Bryste ym 1875. Bu farw ei gŵr ym 1908. Am gyfnod, bu'n byw ym Mryste lle mynychodd cangen Gorllewin Lloegr o'r Women's Social and Political Union (WSPU).[1] Y flwyddyn ganlynol, ar 29 Mehefin 1909, cafodd ei harestio yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl ceisio lobïo ar ran y WSPU.[1][2]

Ymgyrchydd dros hawliau merched golygu

Cafodd ei dedfrydu i fis yng Ngharchar Holloway ond cafodd ei rhyddhau'n gynnar ar ôl iddi fynd ar streic newyn. Yn ddiweddarach, cafwyd hi a Theresa Garnett yn euog o ymosod ar warden yn Holloway. Unwaith eto, aeth ar streic newyn i gael ei rhyddhau o ddedfryd deg diwrnod.

Gwahoddwyd Dove-Wilcox i "Eagle House" yn Batheaston yng Ngwlad yr Haf ym 1910. Llysenw "Eagle House" oedd "Suffragette's Rest" oherwydd ei gefnogaeth i'r mudiad hawliau merched. Roedd yn gartref i'r swffragetiaid Mary Blathwayt a'i mam Emily.

Fel y Blathwayts, cynigiodd Dove Wilcox lety i swffragetiaid gan gynnwys yr eithafwr Mary Richardson, yn ei bwthyn yn Nyffryn Gwy. Syrthiodd Mary dros ei phen a'i chlustiau gyda Dove-Wilcox ac ysgrifennodd farddoniaeth am ei chariad tuag ati. Yn 1911, trosglwyddwyd cadair y WSPU Gorllewin Lloegr i Dove-Wilcox gan y cyn-gadeirydd Annie Kenney a mynegodd ei theyrngarwch i'r Pankhursts.[1][3]

Dechreuodd rhai aelodau anghytuno â WSPU. Roedd Emmeline a Christabel Pankhurst yn mynnu ymgyrchu mwy milwriaethus, mwy eithafol ac ym 1913 gwahanodd y teulu Pankhurst a'r WSPU dros fater llosgi bwriadol. Ymunodd Dove-Wilcox â Sylvia Pankhurst ac eraill a greodd Ffederasiwn Swffragetiaid Dwyrain Llundain (East London Federation of Suffragettes).

Bu farw yn Ealing yn 1963.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Elizabeth Crawford (2001). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide, 1866-1928. Psychology Press. tt. 709–. ISBN 978-0-415-23926-4.
  2. "Lillian Dove Willcox". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-04-04.
  3. "lillian dove-willcox | Woman and her Sphere". womanandhersphere.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-04-05.