Christabel Pankhurst

etholfreintiwr, cyd-sylfaenydd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, golygydd (1880-1958)

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Christabel Pankhurst (22 Medi 1880 - 13 Chwefror 1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched y dosbarth canol ac uwch; roedd yn ferch i Emmeline Pankhurst. Roedd hefyd yn gyd-sefydlydd Undeb Sosialaidd a Gwleidyddol y Merched sef y Women's Social and Political Union (WSPU), a daliodd ati i ddanfon gorchymynion ac anogaeth i'r Undeb, hyd yn oed rhwng 1912 a 1913 pan oedd yn alltud yn Ffrainc. Yn wahanol i'w chwaer iau Adela Pankhurst, cefnogai'r rhyfel yn erbyn yr Almaen. Wedi'r rhyfel, aeth i Unol Daleithiau America, lle ymgyrchodd fel efengylydd yn y mudiad yr Ailatgyfodiad.[1][2][3][4][5][6]

Christabel Pankhurst
Ganwyd22 Medi 1880 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw13 Chwefror 1958 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
Man preswylParis, Canada, Califfornia, Côte d'Azur, Llundain, Manceinion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
AddysgBagloriaeth yn y Gyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ymgyrchydd dros hawliau merched, pensaer, golygydd, ymgyrchydd, swffragét, ffeminist Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Lafur Annibynnol, y Blaid Geidwadol, Plaid y Merched Edit this on Wikidata
TadRichard Pankhurst Edit this on Wikidata
MamEmmeline Pankhurst Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Tudor Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Cafodd ei geni ym Manceinion, Lloegr, ar 22 Medi 1880, bu farw yn Los Angeles ac fe'i claddwyd ym Mynwent Goffa Woodlawn. Fe'i magwyd, o ddydd i ddydd, ar aelwyd a oedd yn hoff o drafod materion gwleidyddol. Bu ei thad, a oedd yn fargyfreithiwr, yn ymgeisydd seneddol sosialaidd ac roedd ei mam Emmeline, a'i chwiorydd Sylvia ac Adela yn arweinyddion y mudiad Prydeinig dros etholfraint. Mynychodd yr ysgol uwchradd leol ym Manceinion ac yna derbyniodd radd LL.B. yn y gyfraith, ond ni chaniatawyd iddi weithio fel cyfreithiwr gan ei bod yn fenyw. Yn hytrach, gweithiai gyda'i mam yn swyddfa cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau Manceinion. [7][8][9][10]

Am gyfnod symudodd i Genefa i fyw gyda perthynas i'r teulu, ond dychwelodd i Loegr pan ymosododd yr Almaen ar Ffrainc. Gartref, cyorthwyodd ei mam yn ei hymgyrch dros hawliau cyfartal i ferched ac i fagu ei chwiorydd iau pan bu farw ei thad yn 1898.[11][12]

 
Annie Kenney a Christabel Pankhurst, tua 1908

Yr ymgyrchydd golygu

Ym 1905, torrodd Christabel Pankhurst ar draws cyfarfod o'r Blaid Ryddfrydol trwy weiddi a galw am hawliau pleidleisio i fenywod (y dosbarth canol ac uwch). Cafodd ei harestio ac ynghyd â'i chyd-swffragét Annie Kenney fe'i carcharwyd. Enillodd eu hachos lawer o sylw yn y cyfryngau ac ymchwyddodd rhengoedd y UGCG o ganlyniad i'r achos llys.

Symudodd i Lundain i weithio fel ysgrifennydd y WSPU, lle galwyd hi yn "Queen of the Mob". Danfonwyd hi eilwaith yn 1907 yn llys Parliament Square ac eto yn 1909 yn llys Bow Street. Dihangodd i Baris, lle bu'n byw rhwng 1913 a 1914, er mwyn osgoi carchar dan amodau Prisoner's (Temporary Discharge for Ill-Health) Act. Pan ddychwelodd o Ffrainc, fe'i carcharwyd ac aeth ar streic newyn; bu yn y carchar am 30 diwrnod, er iddi gael ei dedfrydu i dair mlynedd.

Ysgrifennodd lyfr am afiechydon rhyw, o'r enw The Great Scourge and How to End It.[13]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (1936)[14] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. http://www.enciclopediadelledonne.it/biografie/cristabel-pankhurnst. dyddiad cyrchiad: 12 Ebrill 2019.
  3. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Christabel Pankhurst". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christabel Harriette Pankhurst". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dame Christabel Harriette Pankhurst". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Christabel Harriette Pankhurst".
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Christabel Pankhurst". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christabel Harriette Pankhurst". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Dame Christabel Harriette Pankhurst". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christabel Harriette Pankhurst". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  5. Tad: Oxford Dictionary of National Biography.
  6. Mam: Oxford Dictionary of National Biography.
  7. Alma mater: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  8. Galwedigaeth: https://spartacus-educational.com/WpankhurstC.htm. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Oxford Dictionary of National Biography. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 25 Medi 2023.
  9. Aelodaeth: http://spartacus-educational.com/Wwspu.htm.
  10. Anrhydeddau: Oxford Dictionary of National Biography.
  11. Hillberg, Isabelle. "Pankhurst, Christabel Hariette (1880–1958)". Detroit:Gale. Cyrchwyd 6 Hydref 2011.
  12. "Christabel Pankhurst". Gale. Cyrchwyd 17 Hydref 2011.
  13. Pankhurst C, 1913. The Great Scourge and How to End It Archifwyd 3 March 2001[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  14. Oxford Dictionary of National Biography.