Liman (llannerch anialwch)

gwerddon artiffisial yn Israel

Noder fod sawl tref yn meddu'r enw "Liman"

Liman grwyd gan Gronfa Genedlaethol Iddewig, y FNF-KKL, diffeithwch y Negef, Israel

Mae liman yn ddyfais amgylcheddol a thirluniol sy'n disgrifio llannerch o goed wedi eu llunio'n fwriadol er mwyn dal dŵr ar adeg o lifogydd mewn tir anial. Bydd y liman yn cael ei chreu mewn pant neu man lle gellir arafu'r llif er mwyn crynhoi dŵr. Plennir coed yn y man lle bydd y dŵr yn crynhoi.[1] Mae'r gair yn deillio o'r Groeg, λίμήν liman, sef "porth"). Noder fod sawl tref gyda'r enw 'liman' nad sydd â chyslltiad gyda'r arfer o ffrwyno dŵr yn Israel.

Pwrpas golygu

Crewyd limanau yn Israel er mwyn ceisio rheoli ac arafu anialwcheiddio heb ddefnyddio dŵr, sydd eisoes yn brin mewn tir crin. Bydd y liman yno i geisio atal rhagor o erydiad ar y tir yn enweig o or-sychder a hefyd ar gyfnodau o lifogydd pan caiff haen uchaf tir bregus i lusgo i ffwrdd gan nerth y dŵr wedi storm neu cyfnod o law trwm.[2]

Lleoliad golygu

Lleoliad delfrydol liman yw ger wadi, sef llwybr nant neu afon sy'n sych am rhan fwyaf o'r flwyddyn. Y cyfnod orau i blanu'r coed yw ychydig cyn y tymor glawog. Creir ffos artiffisial neu ystumio ffosydd naturiol fel bod modd gorfodi dwr i lifo i'r pant coed ar yr adegau prin hynny o law a llifogydd. Yn aml, ceir liman ger ffyrdd yn Israel lle mae'r dwr oddi ar y ffordd yn cael ei ystumo oddi ar y ffordd i'r liman yn bwrpasol. Nod creu liman yw i gryfhau a dod â bywyd gwyll ac amrywiaeth bionaturiol i'r ardal a fe gwneir defnydd ohonynt gan deithwyr sydd am orffwyso gyda chysgod coed a phobl wrth hamddena.

Plennir coed addas yn cynnwys tamarind, acacia, prosopis, pistasio, ewcalyptws, palmwydd, coeden carob, a datys.

Llannerch bwrpasol golygu

Mewn cyferbyniad â gwerddon (oasis), tirwedd arfiffisial yw liman ac nid ei fwriad yw bwydo da byw, geifr na chodi cnwd. Ni ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth na choedwigaeth. Dim ond ychydig o ofal coed a chynnal a chadw achlysurol sydd ei angen yn angenrheidiol. Yn anialwch y Negev, yn ôl JNF-KKL, dim ond dau liman sydd wedi'u creu hyd yma.

Nid yw'n glir a oes modelau hynafol ar gyfer hyn neu a yw Liman Israel yn ganlyniad i ymchwil anialwch diweddar yn unig.

Cyfeiriadau golygu

  1. https://en.wikipedia.org/wiki/Liman_irrigation_system#cite_note-KKL-1
  2. Prinz, D. 2002. The role of water harvesting in alleviating water scarcity in arid areas. In Proceedings, International Conference on Water Resources Management in Arid Regions. 23–27 March 2002, 107–122. Kuwait: Kuwait Institute for Scientific Research Available at: "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-03-24. Cyrchwyd 2012-06-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)

Dolenni allanol golygu