Ewcalyptus
Blodau a dail
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Myrtales
Teulu: Myrtaceae
Genws: Eucalyptus
L'Hér.
Rhywogaethau

tua 700

O'r iaith Roeg y daw'r gair ewcalyptws sef εὐκάλυπτος, eukályptos, sy'n golygu "gorchuddiwyd yn dda"; planhigyn blodeuol sy'n perthyn i deulu'r myrtwydd (Myrtaceae) ac sy'n deillio o Awstralia, Gini Newydd, Ynysoedd y Philippines ac Indonesia ydyw. Ceir dros 700 gwahanol fath o ewcalyptws. Dim ond 15 ohonynt sy'n tyfu'n naturiol y tu allan i Awstralia.

Defnyddir y goeden hon y tu allan i'w thiriogaeth frodorol er mwyn sychu rhostiroedd i leihau malaria ond mae cryn ddadlau ynghylch hyn.[1]

Meddygaeth amgen

golygu

Defnyddir rhannau o'r ewcalyptus i leddfu symptomau: annwyd, clunwst (Sgiatica), ffliw ac i glirio llau pen.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan Saesneg ynghylch y defnydd o'r goeden y tu allan i'w hardaloedd brodorol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-16. Cyrchwyd 2009-05-02.