Wadi
Term Arabeg sydd yn cyfeirio'n draddodiadol at gwm yw wadi (Arabeg: وادي wādī). Gall hefyd gyfeirio at wely afon sych (dros dro) sydd ddim ond yn llifo pan fo glaw trwm, neu, fel arall, ond yn ffrwd ysbeidiol. Ceir gair Cymraeg am hyn o beth sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio fel cyfieithiad o "wadi", sef sychnant.[1]
Un o'r wadis enwocaf yn y byd yw Wadi Rum yng Ngwlad Iorddonen. Mae'r wadi yn cynnwys ffurfiant creigiau anhygoel wedi eu naddi gan yr elfennau. Mae'n gyrchfan twristiaeth boblogaidd yn y wlad.