Linda Lewis
Cantores, cyfansoddwr caneuon a gitarydd o Loegr oedd Linda Ann Fredericks (27 Medi 1950 – 3 Mai 2023), sy'n fwy adnabyddus fel Linda Lewis.[1] Mae ei recordiau yn cynnwys albymau unigol, Lark (1972), Not a Little Girl Anymore (1975), Woman Overboard (1977), a'r Second Nature diweddarach (1995),[2] a'r senglau "Rock-a-Doodle-Doo" (1973), “Sideway Shuffle” (1973), a’i fersiwn hi o "Shoop Shoop Song (It’s in His Kiss)". Daeth hi'n llwyddiannus mewn gwledydd eraill fel Japan.[3] [4]
Linda Lewis | |
---|---|
Ffugenw | Linda Lewis |
Ganwyd | Linda Ann Fredericks 27 Medi 1950 Custom House |
Bu farw | 3 Mai 2023 Waltham Abbey |
Label recordio | Polydor Records, Reprise Records, Arista Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon, canwr-gyfansoddwr, gitarydd, cerddor jazz, artist recordio, cerddor, cyfansoddwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth roc, Ska, ffwnc |
Gwefan | http://www.lindalewis.co.uk/ |
Cafodd Lewis ei geni yn West Ham. Mynychodd hi ysgol lwyfan, [5] ac ymddangosodd mewn ffilmiau fel A Taste of Honey (1961) ac fel cefnogwr sgrechian yn ffilm gyntaf y Beatles A Hard Day's Night (1964). Ymunodd â The Q Set, band Prydeinig a berfformiodd gerddoriaeth ska a bît glas. [2]
Ym 1970, ymddangosodd Lewis yng Ngŵyl gyntaf Glastonbury, ar ôl cael ei harchebu gan y DJ a'r archebwr cyngherddau Jeff Dexter. Cyrhaeddodd ei sengl boblogaidd gyntaf "Rock-a-Doodle-Doo" Rhif 15 yn Siart Senglau'r DU ym 1973.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums (yn Saesneg) (arg. 19th). Llundain: Guinness World Records Limited. t. 320. ISBN 1-904994-10-5.
- ↑ 2.0 2.1 Joynson, Vernon. The Tapestry of Delights – The Comprehensive Guide to British Music of the Beat, R&B, Psychedelic and Progressive Eras. Borderline. tt. 507–8.
- ↑ "Linda Lewis, biography". Lindalewis.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2010. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2010.
- ↑ "Linda Lewis, Credits". AllMusic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2010.
- ↑ Cooney, Christy (4 May 2023). "Linda Lewis, whose singing career spanned more than four decades, dies aged 72". BBC News. Cyrchwyd 4 May 2023.
- ↑ "Linda Lewis: Trailblazer singer-songwriter dead at 72 as sister pays poignant tribute". The Mirror. 4 May 2023. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Linda Lewis, singer and famed backing vocalist, dies aged 72". The Guardian (yn Saesneg). 4 Mai 2023. Cyrchwyd 4 Mai 2023.