Little White Lies (ffilm, 2006)

ffilm 2006

Ffilm gomedi a ryddhawyd yn 2006 yw Little White Lies. Caradog James a'i chyfarwyddodd.

Little White Lies
Cyfarwyddwr Caradog James
Cynhyrchydd John Giwa-Amu
Ysgrifennwr Helen Griffin
Cerddoriaeth Christian Henson
Sinematograffeg Philipp Blaubach
Golygydd Rick Maybe
Sain Dai Shell, Ellie Russell
Dylunio Alison Adams
Cwmni cynhyrchu Red and Black Films
Dyddiad rhyddhau 10 Ionawr 2006
Amser rhedeg 86 munud
Gwlad Cymru
Iaith Saesneg

Crynodeb golygu

Caiff teulu Cymreig eu rhwygo’n ddarnau trwy ofnau bod gan eu gwlad fwy o fosciaid na MacDonald’s a bod terfysgwyr ym mhob siop gornel. Yr unig berson sy’n dal dau ben llinyn ynghyd yw’r fam, Karen. Mae’n rhaid iddi hi ddelio gyda’i gwr diog, sy’n gwneud jôc o bob sefyllfa; ei merch, sydd ddim yn fodlon yngan gair i’w thad am ei bod wedi cwympo mewn cariad â bachgen o India; a’i mab, sydd heb yn wybod iddynt, yn llabwst hiliol. Mae'r ffilm ddoniol a thorcalonnus hon yn delio gyda paranoia hiliaeth, gwleidyddiaeth casineb a sut mae’n effeithio ar deulu.

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

Cast cefnogol golygu

  • Daniel Hawksford (Dai)
  • Mark Lewis-Jones (Dr. James)
  • John Norton (Michael)

Effeithiau arbennig golygu

  • Jon Rennie

Cydnabyddiaethau eraill golygu

  • Uwch Gynhyrchwyr: Peter Edwards, Mo Nazemi, James Brown, Pietro Luporini, Rajeev Aggarwal, Helen Griffin

Manylion technegol golygu

Tystysgrif Ffilm: Untitled Certificate

Fformat Saethu: HD

Lliw: Lliw

Lleoliadau Saethu: Caerdydd ac Abertawe

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Gwobr Derbynnydd
BAFTA Cymru Actores Gorau Helen Griffin
Actor Gorau Brian Hibbard
Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cartagena Ffilm Orau

Manylion Atodol golygu

Gwefannau golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Little White Lies ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.