Agor y brif ddewislen

Y ffurf ar Ladin llafar fel y'i siaredir ym Mhrydain yn yr oesoedd Rhufeinig (1g i'r 5g OC) ac ôl-Rufeinig (5g i'r 7g) yw Lladin Prydeinig. Pan adawodd y Rhufeiniaid Brydain tua 410, roedd trigolion addysgedig de Prydain yn medru Lladin a Brythoneg, ac yn y 6g roedd trigolion Dyfed a Brycheiniog hefyd yn siarad Gwyddeleg. Bu farw'r iaith yn nechrau'r 8g, ac ymledodd Eingl-Sacsoneg ar draws Lloegr. Ceir nifer o fenthyceiriau Lladin yn y Frythoneg a'r Hen Saesneg, sydd yn goroesi heddiw yn y Gymraeg, y Gernyweg, y Llydaweg, a'r Saesneg modern. Nid yw ysgolheigion yn gwybod cymaint am Ladin Prydeinig ag y maent am ffurfiau Lladin llafar y Cyfandir a oedd yn sail i'r ieithoedd Romáwns.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Benjamin Fortson, "British Latin", Oxford Classical Dictionary (Gwasg Prifysgol Rhydychen: 2017). Adalwyd ar 6 Chwefror 2019.