Llanbedr Gwynllŵg
Llanbedr neu Llanbedr Gwynllŵg yw pentrefan i'r de-orllewin o ddinas Casnewydd, de Cymru.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.516°N 3.056°W |
- Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).
Lleoliad
golyguLleolir Llanbedr Gwynllŵg 9.6 km i'r gorllewin o ganol dinas Casnewydd a 12 km i'r dwyrain o ganol dinas Caerdydd.
Mae'n gorwedd yng nghymuned plwyfol Gwynllŵg a ward etholiadol Marshfield.
Hanes ac amwynderau
golyguFel y rhan fwyaf o aneddiadau ar Lefel Gwynllŵg mae'n gorwedd ar dir a adferwyd o Fôr Hafren [1]. Lleolir Llanbedr ei hun yn erbyn morglawdd [2],[3] ac mae'r cyn-eglwys blwyfol San Pedr nawr yn dŷ preifat.
Tafarn lleol yw'r Six Bells [4].
Cais Maenol 2004
golyguDaeth y pentrefyn yn ganolbwynt sylw'r wasg yn 2004 pan fu i berson o'r enw Marc Roberts a oedd eisoes wedi prynu teitl Arglwydd y Faenor benderfynu codi tâl gormodol ar bentrefwyr i groesi yr hyn a oedd bob amser wedi bod yn eu tir eu hunain. Trafodwyd y materion yn y senedd ac atebwyd ar y pwnc gan yr is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol tros Faterion Cyfansoddiadol yn cydnabod 'yr angen am ddiwygio ar y olion cyfraith ffiwdalaidd a maenoraidd'.[1]
Gweler hefyd
golygu- Gowt Llanbedr