Sain Pedrog

eglwys a phlwyf yn Sir Benfro
(Ailgyfeiriad o Llanbedrog, Sir Benfro)

Eglwys a phlwyf yng nghymuned Castellmartin 3 milltir i'r de-orllewin o dref Penfro yn Sir Benfro yw Sain Pedrog (Saesneg: St Petrox).

Eglwys Sain Pedrog
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSain Pedrog Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr80.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.640127°N 4.934133°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iPedrog Edit this on Wikidata
Manylion
Eglwys Llanbedrog

Mae Sain Pedrog yn y rhan o'r sir sydd yn draddiadol Saesneg ei hiaith, i'r de o'r Landsker. Ychydig o dystiolaeth sydd ar gael am enw Cymraeg y plwyf, ond digwydd Sain pedrog yn y rhestr o enwau plwyfi Cymru yn llawysgrif Peniarth 147 (c.1566) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]

Yr eglwys

golygu

Mae'r eglwys (Cyfeirnod OS: SR970 973) wedi ei chysegru i Sant Pedrog ac mae'n dyddio o'r 13eg ganrif.[2]

Mae tŵr yr eglwys yn null traddodiadol Sir Benfro yn fain ac yn soled. Adferwyd yr eglwys yn llwyr ym 1854, o dan lygad barcud y pensaer R. Kyrke Penson, a thalwyd am y gwaith gan John Frederick, Iarll Cawdor o Gwrt Stackpole. Ychwanegwyd festri ar y pryd. Mae Richard Fenton, yn ei gyfrol An Historical Tour through Pembrokeshire (1810), yn disgifio'r eglwys fel 'small, but very light, airy and neat'. Ceir cofebau yn yr eglwys gan gynnwys un i William Lloyd, 1674, a chofeb arddull baroc i'r Arglwyddes Jane Mansell, dyddiedig 1692.

Y plwyf

golygu

Mae'n rhan o blwyf unedig ers 1985 gyda Ystagbwll Elidir, Bosherston a St Twynnells. Yn 2001 ychwanegwyd St Mary's a St Michael's Penfro ac yn 2004 daeth yn rhan o Reithoriaeth Cil-maen. Mae'r hen reithordy nawr yn ffermdy Old Rectory Farm ers i'r reithor olaf Francis Leach ymadael tua 1870.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Charles, B. G. (1992). The Place-names of Pembrokeshire. 2. Aberystwyth: National Library of Wales. t. 732. ISBN 0907158-58-7.
  2. Gwefan y plwyf