Pedrog
Roedd Pedrog (Cernyweg: Petroc[k]; Llydaweg: Pereg) yn sant o Gymro sy'n nawddsant Cernyw ar y cyd â Piran. Ar 4 Mehefin mae ei ŵyl. Defnyddir baner Petroc fel baner Dyfnaint (yn atgof o'r hen dywysogaeth Frythonaidd cyn cyfnod Cernyw). Mae 5 eglwys i Petroc yng Nghernyw, 8 yn Llydaw a 17 yn Nyfnaint.
Pedrog | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 g ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 4 Mehefin 564 ![]() Lannwedhenek ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | mynach ![]() |
Dydd gŵyl | 4 Mehefin ![]() |
Tad | Glywys ![]() |
- Am y bardd "Pedrog", gweler John Owen Williams (Pedrog).
Cedwir ei enw yn Llanbedrog (Llŷn), Y Ferwig Ceredigion a Llanbedrog, Sir Benfro.
Roedd Petrocus neu Petroc neu Pedrog yn sant o'r 6g a aeth o Gymru i Iwerddon i astudio. Wedi ymweld â Rhufain aeth ymlaen i sefydlu mynachdy yng Nghernyw yn Padstow. (Petrockstow - Preswyl Petroc) Tua diwedd ei oes aeth i gell unig ar Bodmin Moor. Yn ôl William of Worcester bu farw ar 4ydd Mehefin 564. Hen enw Bodmin oedd Bosvenegh (Preswyl Mynachod). Cadwodd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177, cymerwyd nhw i Abaty St Mevennus yn Llydaw tan i'r brenin Henry II mynnu eu dychwelyd.
EglwysiGolygu
Ei brif eglwysi yng Nghymru ydy Eglwys Llanbedrog, Sir Benfro ac Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog, Llŷn, ac eglwys yn y Ferwig, Ceredigion, (a restrwyd, fel eglwys ‘Ber[e]wick’ ym 1291).[1][2] Ym mhentref y Ferwig, ceir hen felin, sef Felin Bedr, enw sy'n adlewyrchu enw Pedrog, y cysegrwyd yr eglwys iddo, ac mae'n bosibl ei bod yn sefyll ar safle melin ganoloesol.
Ceir 17 eglwys iddo yn Nyfnaint a 6 yng Nghernyw. Yn Llydaw ceir 8 eglwys neu bentref gan gynnwys: Sant-Pereg, Lopereg a Tregon-Poudour (Fr: Église Saint-Pétrock de Trégon).
Rhestr Wicidata:
LlyfryddiaethGolygu
- Carter, Eileen. (2001). In the Shadow of St Piran
- Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall. Dean & Chapter of Truro.
- Orme, N. (1991) Unity and Variety: A History of the Church in Devon and Cornwall ISBN 0859893553
- Orme, N. (1992) Nicholas Roscarrock's Lives of the Saints ISBN 0901853356
- Orme, N. (1996) English Church Dedications: With a Survey of Cornwall and Devon, Gwasg Prifysgol Exeter ISBN 0859895165
- Orme, N. (2000) The Saints of Cornwall, Gwasg Prifysgol Rhydychen ISBN 0198207654
CyfeiriadauGolygu
- ↑ parish.churchinwales.org;[dolen marw] adalwyd 4 Mehefin 2016.
- ↑ Gwefan Coflein;[dolen marw] adalwyd 4 Mehefin 2016.