Ffin ieithyddol Sir Benfro
Mae ffin ieithyddol Sir Benfro,[1] neu'r llinell Landsker, yn ffin ieithyddol hanesyddol yn ne-orllewin Cymru. Mae'r bobl i'r gogledd o'r ffin yn siarad Cymraeg yn bennaf tra bod y bobl i'r de wedi siarad Saesneg yn bennaf er y 12g.
Mae'r ymraniad ieithyddol hwn yn adlewyrchu hanes yr ardal. Daeth de Penfro i feddiant y Normaniaid yn yr 11g ac yn y ganrif olynol cafwyd mewnlifiad sylweddol o Saeson a Ffleminiaid. Saesneg a Fflemeg oedd iaith y rhan honno o'r sir mewn canlyniad. Mae ôl y Fflemeg i'w gweld ar dafodiaith Saesneg Sir Benfro o hyd.
Siaredir Cymraeg gan y mwyafrif o hyd yn y gogledd, yn enwedig ar hyd yr arfordir o ardal Tyddewi i fyny ac ym mryniau'r Preselau a'r cylch. Yno y ceir tafodiaith Sir Benfro (Dyfedeg) ar ei chryfaf.[2]
Yn ôl yr hynafiaethydd George Owen, ar ddechrau'r 16g y Gymraeg oedd iaith cantrefi Cemais, Cilgerran a Phebidiog. I'r dwyrain rhedai'r landsker trwy blwyfi Llanbedr Felffre a Llanddewi Felffre yng nghantref Arberth a thrwy Llanfallteg a Llandysilio yng nghantref Daugleddau.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Awbery, Gwenllian M, Cymraeg Sir Benfro, Llanrwst, 1991, ISBN 0863811817
- ↑ 2.0 2.1 G. M. Awbery, 'Tafodiaith Sir Benfro', yn Abergwaun a'r Fro (Cyfres Bro'r Eisteddfod 6, 1986).