Cwm Sgwt
(Ailgyfeiriad o Llanbidynodyn)
Enw doniol, os nad dirmygus, ar ardal, tref neu bentref dychmygol yng Nghymru yw Cwm Sgwt. Lle heb ddim hynodrwydd arbennig iddo yw Cwm Sgwt, a'i unig hynodrwydd yw ei fod yn lle 'cyffredin' Cymreig.
Gellir defnyddio'r enw mewn cyd-destun tebyg i hyn:
- 'Beth fyddai Mrs Jones Cwm Sgwt yn ei feddwl o'r holl regi ar S4C?' (ond gweler hefyd Mrs Jones Llanrug)[1]
- Roedd Dulyn yn llawn o Gymry ar gyfer y gêm rygbi - Clwb Rygbi Cwm Sgwt ...'
Enwau eraill ar lefydd dychmygol eraill yng Nghymru: Llanbidynodyn, enw ychydig yn fwy coch; Aberstalwm, lle hiraethus y cyfeirir ato yng nghân Bryn Fôn Strydoedd Aberstalwm; Cwm Rhyd y Chwadods o raglen Delwyn Siôn ar S4C; Cwm Rhyd y Rhosyn, o recordiau Dafydd Iwan ac Edward ar label Sain.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ GLOYWI IAITH. Prifysgol Aberystwyth (Haf 2010). Adalwyd ar 2 Mai 2012.