Bryn Fôn

actor a aned yn 1954

Canwr ac actor Cymraeg yw Bryn Fôn (ganed 27 Awst 1954, Llanllyfni, Gwynedd[1]). Mynychodd Ysgol Gynradd Llanllyfni ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynd ymlaen i astudio ymarfer corff ac astudiaethau'r amgylchedd yn y coleg. Dechreuodd ei yrfa yn y byd adloniant gan gymryd rhan yn yr opera roc Dic Penderyn yn 1977. Ffurfiodd y grŵp Crysbas ar ôl gadael y Coleg, a ffurfiodd Sobin a'r Smaeliaid yn 1988.[1]

Bryn Fôn
Ganwyd27 Awst 1954 Edit this on Wikidata
Llanllyfni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, actor, actor teledu Edit this on Wikidata

Ef oedd yr artist cyntaf i chwarae'n fyw ar BBC Radio Cymru yn 1977.[2] A bu'n rhannol gyfrifol am ehangu poblogrwydd pop Cymraeg ymysg ieuenctid Cymru.[3]

Bu'n 'hync y mis' yng nghylchgrawn She yn yr 1980au.[1]

Wedi i'r ymgyrch llosgi tai haf ddechrau yn Rhagfyr 1979, ysgrifennodd Fôn gân yn bychanu ymdrechion aflwyddiannus yr heddlu i ddal y rhai a oedd yn gyfrifol. Yn 1990 disgynnodd sawl ditectif ar ei dŷ ac arestiwyd ef ynghyd a'i bartner, Anna, wedi iddynt ganfod pecyn wedi'i guddio yn un o'r waliau ar dir ei dyddyn. Delwyd ef yn swyddfa heddlu Dolgellau am 48 awr cyn cael ei ryddhau heb gyhuddiad. Arestiwyd cyd-aelod cast C'mon Midffild!, Mei Jones ar yr un adeg.[4]

Mae'n dal i fyw yn Nyffryn Nantlle. Mae bellach wedi priodi, ac yn dad i ddau o blant.

Ysgrifennwyd llyfr Sobin a'r Smaeliaid yn 1996 gan Marlyn Samuel, Cyhoeddiadau Mei, ISBN 9780852841167.

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Bryn Fôn yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[5]

Disgyddiaeth golygu

Sobin a'r Smaeliaid
  • Ta-ta Botha, 1989, (Sain)
  • Sobin a'r Smaeliaid - 1, 1990, (Sain)
  • Caib, 1991, (Sain)
  • A Rhaw, 1992, (Sain)
  • Goreuon Sobin, (Sain)
Bryn Fôn
  • Dyddiau Di-gymar, 1994, (Crai)
  • Dawnsio ar y Dibyn, 1998, (Crai)
Bryn Fôn a'r Band
  • Abacus, 2004, (laBelaBel)
  • CAM, 2005, (laBelaBel)
  • Toca, 2008, (laBelaBel)

Cyfeiriadau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.