Llanina

pentref yng Ngheredigion

Hen blwyf ac eglwys hynafol yw Llanina sydd wedi'i leoli rhwng Traeth Llanina a Choed Llanina, i'r dwyrain o Gei Newydd, Ceredigion. Saif ym mhlwyf Llanllwchaiarn bellach. Credir fod yr enw'n cyfeirio at Santes Ina a dyna hefyd enw'r eglwys.[1] Lleolwyd yr eglwys ar aber Afon Llethi, sy'n ymuno â'r môr o fewn ychydig fetrau o'r fynwent; cyfeirnod grid: SN4049459823.

Llanina
Mathpentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIna ach Cynyr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2°N 4.3333°W Edit this on Wikidata
Map

Saif Plas Llanina gerllaw, lle treuliai Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden ei wyliau haf blynyddol, gyda'r teulu. Deuai un o'i ffrindiau yma hefyd, sef y bardd Dylan Thomas, gan aros yn y cwt ar waelod yr ardd.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr eglwys yn gysylltiedig â Thyddewi. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1810, ac ni wyddus beth oedd ffurf na siâp yr hen eglwys hynafol. Cofrestrwyd yr eglwys yn Radd II gan Cadw [2] Mae'r gat, neu'r fynedfa yn cynnwys cerrig o'r hen eglwys ac mae hefyd wedi'i chofrestru'n Radd II.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan yr Eglwys yng Nghymru; Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Ionawr 2017.
  2. Gwefan Coflein; adalwyd 20 Chwefror 2017.