Llawafael

(Ailgyfeiriad o Llaw-glymu)

Seremoni Ewropeaidd draddodiadol a all fod dros dro neu'n barhaol yw llawafael[1] (Saesneg: Handfasting). Mae llawafael yn debyg i ddyweddïad neu briodas.

Enghraifft o glwm o'r seremoni llawafael; mae pawb a fynychir y seremoni yn clymu rhuban o gwmpas dwylo'r cwpl.

Defnydd modern golygu

Y dyddiau yma, ymarferir y ddefod hon gan rai Neo-baganiaid. Gellir datgan y bydd y llaw-afaeliad yn parhau "tra bo cariad," am hyd oes, neu "hyd yn dragywydd" yn ogystal â datganiadau personol eraill. Nid oes yn rhaid i'r seremoni fod yn gyfreithlon (nid yw'n gyfreithlon yng Nghymru, Lloegr, ond mae'n gyfreithlon yn yr Alban ac Iwerddon). Er mwyn osgoi hyn, mae cyplau yn gallu cael seremoni sifil wedyn er mwyn cyfreithloni'r weithred.

Gellir perfformio llawafaeliad rhwng pobl gyfunrywiol a lesbiaid hefyd, oherwydd nid yw Paganiaeth fodern ac Wica yn gwahaniaethu rhwng pobl gyfunrywiol a heterorywiol, yn ogystal am bartneriaid amryfal mewn achos perthnasau polyamorous. Gan fod llawer o draddodiadau o fewn Neo-baganiaeth, gall un seremoni llawafael fod yn wahanol iawn i seremoni llawafael arall, ac nid oes defod gyffredinol. Os yw'r cwpl yn perthyn i draddodiad penodol, gallant berfformio defod yn ôl y traddodiad dan sylw, ac efallai ceir elfennau penodol i'w gwneud yn ystod y ddefod ei hun; mewn rhai traddodiadau, mae'r cwpl yn neidio dros ysgubell, neu lamu tân bach gyda'i gilydd. Gŵyl Fair y Canhwyllau yw'r adeg draddodiadol i gynnal seremoni llawafael, gan mai dyma'r adeg pan ddechreuir dechreuadau newydd.

Fel gyda seremonïau confensiynol, gellir cyfnewid modrwyau yn ystod y ddefod, gan symboleiddio ymrwymiad.

Llenyddiaeth golygu

Yn ogystal ag yn The Monastry gan Syr Walter Scott, cyfeirir at llawafael yn Cymbeline (act I, golygfa vi) gan William Shakespeare.

Cyfeiriadau golygu

  1.  llawafael. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2022.

Ffynonellau golygu

  • A. E. Anton, "'Handfasting' in Scotland", The Scottish Historical Review 37 (rhif 124) (Hydref 1958): 89–102

Dolenni allanol golygu