Cymeriad o hanes traddodiadol Cymru sy'n frenin ar Ffrainc yn y chwedl Cyfranc Lludd a Llefelys yw Llefelys (Llefelys fab Beli fyddai ei enw llawn, ond 'Llefelys' yn unig a geir yn y llawysgrifau). Ei frawd hŷn yn y Gyfranc yw Lludd fab Beli. Fel un o blant Beli Mawr byddai'n frawd i Gaswallon fab Beli hefyd. Yn ôl rhai ffynonellau mae'r dduwies Dôn yn ferch Beli ac felly'n chwaer i Ludd a Llefelys, ond nid yw'n chwarae rhan yn eu hanes. Yn ôl Sieffre o Fynwy mae Niniaw yn frawd iddo hefyd.

Prif ffynhonnell ein gwybodaeth am Lefelys yw Cyfranc Lludd a Llefelys, chwedl a oedd yn cylchredeg erbyn tua 1200 ond sy'n cynnwys deunydd hŷn yn ogystal â deunydd a addaswyd o waith Sieffre o Fynwy. Yn y gyfranc ("chwedl"), mae Lludd, fel mab hynaf Beli Mawr, yn etifeddu ei deyrnas ac yn frenin ar Brydain â'i lys yn Llundain. Ynys Prydain yw ei deyrnas, sef gwlad y Brythoniaid (yn y chwedl mae Lludd yn darganfod canol union yr "ynys" yn Rhydychen). Adroddir yn y chwedl sut y bu Tair Gormes yn aflonyddu'r deyrnas a sut y llwyddodd Lludd i gael gwared arnynt trwy ddilyn cyngor ei frawd Llefelys.

Dywedir fod Llefelys wedi dod yn frenin Ffrainc trwy briodas. Daeth y newyddion i lys Lludd fod brenin Ffrainc wedi marw gan adael un ferch yn etifedd a gaddo'r deyrnas i bwy bynnag a'i phriodai. Â Llefelys a'i frawd drosodd i Ffrainc mewn llynges sy'n llawn o farchogion arfog. Anfonir negesau at dywysogion ac uchelwyr Ffrainc yn gofyn llaw y forwyn; cydsynant ac mae Llefelys yn cael y forwyn a'r deyrnas.

Prif ran Llefelys yn y chwedl yw fel cynghorydd doeth i'w frawd hŷn. I geisio ei gyngor mae Lludd yn cychwyn am Ffrainc mewn llynges a daw llynges fawr ei frawd yn ei erbyn. Yng nghanol y môr, rhwng y ddwy lynges, mae'r brodyr yn cyfarfod. Am na fedrant siarad yn agored rhag ofn i'r Coraniaid, y gyntaf o'r Tair Gormes, eu clywed, defnyddia Llefelys gorn hir i siarad a'i frawd. Ond mae "cythraul" (un o'r Coraniaid efallai) yn y corn yn troi geiriau'r brodyr yn atgas. Llwydda Llefelys i gael gwared ohono trwy olchi tu mewn y corn gyda gwin. Yna mae'n rhoi cyngor manwl i Ludd a hefyd rhyw bryfed arbennig sydd i'w briwo mewn dŵr i'w dywallt ar y Coraniaid a'u difetha.

Ar ôl hynny dychwelodd Llefelys i Ffrainc lle rheolodd "yn brudd, ac yn ddoeth, ac yn ddedwydd" am weddill ei oes.

Cyfeiriadau golygu

  • Ifor Williams (gol.), Cyfranc Lludd a Llefelys (Bangor 1910; arg. newydd 1922)