Llenyddiaeth Ramantaidd Sweden

Cyfnod trawiadol a welai'r hen ffurfiolaeth yn trawsnewid i'r oes Ramantaidd yn llên Sweden. Dangoswyd ysbryd farddonol fentrus gan Frans Michael Franzén (1772–1847) a Johan Olof Wallin (1779–1839). Adnabyddir Wallin, Archesgob Uppsala, am ei emynau, am olygu llyfr salmau Eglwys Sweden, ac am ei awdl i George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau. Wedi'r chwyldro pendefigaidd a ddymchwelodd Gustav IV Adolf ym 1809, pallodd allu Academi Sweden i benderfynu ar chwaeth y cyhoedd, ac yn fuan byddai llenorion Rhamantaidd yr Almaen yn boblogaidd iawn. Dynwaredwyd yr Almaenwyr yn frwd, yn enwedig elfennau damcaniaethol a chyfriniol Friedrich Schelling a Novalis, gan y garfan a oedd yn gysylltiedig a'r cylchgrawn Phosphoros.[1] Pennaeth y Phosphoryddion, a sefydlydd cylch llenyddol y Gynghrair Aurora (Aurora-förbundet), oedd Per Daniel Amadeus Atterbom (1790–1855), sydd yn nodedig am weledigaethau arallfydol a throsgynnol yn ei waith, megis ei gylch o delynegion Blommorna a'r ddrama Lycksalighetens ö (1823). Ymhlith y Phosphoryddion eraill oedd y bardd natur Julia Nyberg (Euphrosyne; 1784–1854), y dychanwr a pholemegydd Karl Fredrik Dahlgren (1791–1844), a'r bardd a dramodydd Erik Johan Stagnelius (1793–1823) Gwrthwynebwyd y tueddiadau hyn gan garfan arall yr oes Ramantaidd yn Sweden, y Gothyddion, a fwriadasant atgyfnerthu delfrydau gwladol ac adfywio'r hen sagâu a baledi rhamantus yr Oesoedd Canol yn unol â chenedlaetholdeb Rhamantaidd. Hoelion wyth Gothigiaeth oedd y bardd ac hanesydd Erik Gustaf Geijer (1783–1847) ac Esaias Tegnér (1782–1846).[2] Cyfieithodd Tegnér Saga Frithiof i'r Swedeg, gan ennill iddo'i hun enw fel awdur yr arwrgerdd genedlaethol a thad barddoniaeth fodern Sweden.

Llenyddiaeth Ramantaidd Sweden
Tudalen glawr y rhifyn cyntaf o Phosphoros (1810), un o gylchgronau mwyaf dylanwadol yr oes Ramantaidd yn Sweden.
Mathllenyddiaeth o Sweden Edit this on Wikidata
GwladwriaethSweden Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau

golygu
  1. The Foreign Quarterly Review (yn Saesneg). L. Scott. 1827. t. 195.
  2. Angela Esterhammer (1 Ionawr 2002). Romantic Poetry (yn Saesneg). John Benjamins Publishing. t. 232. ISBN 90-272-3450-7.