George Washington

arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America

George Washington (22 Chwefror 173214 Rhagfyr 1799) oedd arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America; fe'i ganwyd yn Westmoreland County, Virginia. Arweiniodd Byddin Cyfandirol America i fuddugoliaeth yn erbyn Prydain yn Rhyfel Annibyniaeth America (1775-1783). Gelwir Washington weithiau "Tad ei Wlad" am iddo chwarae rhan mor ganolog yn sefydlu'r Unol Daleithiau.

George Washington
Ganwyd22 Chwefror 1732 Edit this on Wikidata
Westmoreland County Edit this on Wikidata
Bu farw14 Rhagfyr 1799 Edit this on Wikidata
o epiglottitis Edit this on Wikidata
Mount Vernon, Mount Vernon, Virginia Edit this on Wikidata
Man preswylPhiladelphia, Westmoreland County, Dinas Efrog Newydd, Mount Vernon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ffermwr, mapiwr, geometer, peiriannydd, gwladweinydd, chwyldroadwr, ysgrifennwr, swyddog y fyddin Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Unol Daleithiau, Commanding General of the United States Army, Commanding General of the United States Army, cadeirydd, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, member of the Virginia House of Burgesses Edit this on Wikidata
Taldra74 modfedd, 188 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr Edit this on Wikidata
TadAugustine Washington Edit this on Wikidata
MamMary Ball Washington Edit this on Wikidata
PriodMartha Washington Edit this on Wikidata
PerthnasauMartha Parke Custis, John Parke Custis, George Washington Parke Custis Edit this on Wikidata
LlinachWashington family Edit this on Wikidata
Gwobr/auThanks of Congress, Medal Aur y Gyngres, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Aur y Gyngres Edit this on Wikidata
llofnod
George Washington
George Washington


Cyfnod yn y swydd
30 Ebrill 1789 – 2 Mawrth 1797
Is-Arlywydd(ion)   John Adams
Rhagflaenydd Dim
Olynydd John Adams

Geni 22 Chwefror 1732
Westmoreland County, Virginia
Marw 14 Rhagfyr 1799(1799-12-14) (67 oed)
Mynydd Vernon, Virginia
Plaid wleidyddol Ffederalwr
Priod Martha Washington
Llofnod

Ei fywyd golygu

Yn ddyn ifanc, gweithiai Washington fel tirfesurydd cefn gwlad gan ennill dealltwriaeth a fyddai'n bwysig iawn yn ddiweddarach o ddaearyddiaeth ei dalaith enedigol.

Cafodd ei brofiad cyntaf fel arweinydd milwrol yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a'r brodorion Americanaidd (17541763). Oherwydd ei brofiad a'i wybodaeth o dir Virginia, fe'i etholwyd yn arweinydd pennaf y lluoedd Americanaidd yn 1775 gan yr Ail Gyngres Gyfandirol ar ddechrau Rhyfel Annibyniaeth America. Cliriodd y Prydeinwyr allan o Boston yn 1776 ond bu bron iddo gael ei ddal ar ôl colli Efrog Newydd gyda cholledion trymion yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Gwnaeth i fyny am hynny trwy groesi Afon Delaware yn y gaeaf a threchu unedau Prydeinig yn New Jersey. Aeth yn ei flaen i drechu a dal y ddwy brif fyddin Brydeinig yn Saratoga (1777) ac wedyn yn Yorktown (1781).

Roedd yn trafod y berthynas rhwng y taleithiau a'u milisias, yn gweithio gyda Congress i gynnal y fyddin Gyfandirol, yn trafod â'r cynghreiriaid Ffrengig ac yn delio â dadlau rhwng staff y fyddin, a daeth i gynrychioli yn ei berson nerth milwrol a gwleidyddol y genedl newydd.

Ar ddiwedd y rhyfel annibyniaeth yn 1783 ymddeolodd Washington i'w ystâd yn Mount Vernon. Ymyrodd yn bersonol i lywio'r Gynhadledd Gyfansoddiadol a ddrafftiodd fersiwn cryfach o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau yn 1787.

Ar 30 Ebrill 1789, daeth Washington yn Arlywydd yr Unol Daleithiau newydd a chreodd system o lywodraethu trwy gabinet a dorodd â'r traddodiad seneddol. Bu ganddo ran flaenllaw mewn creu arferion a rheolau y llywodraeth newydd a detholwyd ei harweinwyr cyntaf i gyd ganddo yn bersonol. Cefnogai gynlluniau Alexander Hamilton i greu llywodraeth ganolog rymus trwy ariannu'r holl ddyledion cenedlaethol a thaleithiol, creu system treth canolog a sefydlu banc cenedlaethol. Nid oedd pawb o blaid y canoli grym hynny a phan wrthryfelodd Pennsylvania yn y Chwyldro Chwisgi bu rhaid i Washington arwain byddin i'w thawelu. Arwyddodd Gytundeb Jay yn 1795 i osgoi rhyfel bellach â Phrydain, er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig pleidwyr Thomas Jefferson. Cefnogai'r Blaid Ffederal (rhagflaenydd y Blaid Weriniaethol) er nad oedd yn aelod ohoni. Sefydlodd yr arfer nad oedd arlywydd i wasanaethu am fwy na ddau dymor ac ymddeolodd unwaith yn rhagor i'w ystâd yn Virginia yn 1797, lle bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1799.

Dywediadau golygu

  • "Nid oes yr un genedl yn ddigon da i lywodraethu cenedl arall".