Llenyddiaeth Saesneg De Affrica

Un o'r gweithiau pwysig cyntaf yn yr iaith Saesneg o Dde Affrica oedd The Story of an African Farm (1883) gan Olive Schreiner (1855–1920), nofel sy'n debyg i'r plassroman (nofel fferm) gan awduron Afrikaans. Roedd nifer o lenorion yr 20g yn ymdrin ag hiliaeth yn Ne Affrica a'r drefn apartheid, gan gynnwys Alan Paton (1903–88), awdur y nofelau Cry, the Beloved Country (1948) a Too Late the Phalarope (1953). Mae'n debyg taw'r ddau lenor Saesneg gwychaf o Dde Affica yn ail hanner yr 20g a'r 21g yw Nadine Gordimer (1923–2014) a J. M. Coetzee (g. 1940). Llenor arall o nod ydy Athol Fugard (g. 1932), sy'n adnabyddus am ei ddramâu gwrth-apartheid a'i nofel Tsotsi (1980).

O'r 1970au ymlaen daeth nifer o lenorion croenddu i'r amlwg yn Ne Affrica drwy ysgrifennu yn yr iaith Saesneg. Miriam Tlali oedd y fenyw groenddu gyntaf i gyhoeddi nofel yn y wlad, Muriel at Metropolitan (1975). Bu'r ysgrifwr a nofelydd Lewis Nkosi (1936–2010) yn treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn alltud. Un o feirdd pwysicaf y wlad yw Mongane Wally Serote (g. 1944), ac mae Zakes Mda (g. 1948) wedi ennill sawl gwobr am ei ddramâu a'i nofelau, gan gynnwys The Heart of Redness (2000).


Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.