Llenyddiaeth Saesneg India

Y gwaith Saesneg cyntaf gan Indiad oedd y llyfr taith The Travels of Dean Mahomet (1794) gan Sake Dean Mahomed (1759–1851), brodor o Patna sy'n enwog am gyflwyno siampŵ i Ewrop. Fel arfer, ystyrir bod corff cynhenid o lenyddiaeth Indiaidd Saesneg yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 19g. Ysgrifennodd y llenor Bengaleg Bankim Chandra Chattopadhyay (1838–1894) un gwaith yn Saesneg, Rajmohan's Wife (cyhoeddwyd mewn penodau, 1864), y nofel gyntaf o India yn yr iaith honno. Un o lenorion pwysicaf India, yn Fengaleg ac yn Saesneg, oedd Rabindranath Tagore (1861–1941), bardd, dramodydd ac ysgrifwr campus.

Darllen pellach

golygu
  • Rosinka Chaudhuri (gol.), A History of Indian Poetry in English (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2016).
  • Dirk Wiemann, Genres of Modernity: Contemporary Indian Novels in English (Amsterdam: Rodopi, 2008).
  Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.