Rabindranath Tagore

cyfansoddwr a aned yn Kolkata yn 1861

Athronydd, dysgeidydd a llenor yn yr iaith Fengaleg oedd Rabindranath Tagore (1861 - 1941), a aned yn Calcutta, yng Ngorllewin Bengal, India. Roedd yn fab i'r diwygiwr crefyddol Debendranath Tagore (1817 - 1905), sefydlydd ashram "Cartref Hedd" yn Calcutta a drowyd yn ganolfan addysg gan ei fab ar ôl ei farwolaeth. Urddiwyd Tagore yn farchog gan Brydain yn 1915 ond fe roddodd heibio'r anrhydedd yn 1919 fel protest yn erbyn Cyflafan Amritsar.

Rabindranath Tagore
Ffugenwভানুসিংহ Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Mai 1861 Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
Bu farw7 Awst 1941 Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Raj Prydeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharlunydd, bardd, cyfansoddwr, dramodydd, awdur ysgrifau, athronydd, arlunydd, ysgrifennwr, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon, canwr, cyfarwyddwr ffilm, ymladdwr rhyddid Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGitanjali, Ghare-Bhaire, Bhanusimha Thakurer Padabali, Valmikipratibha, Kabuliwala, Hungry Stones, Nastanirh, Noukadubi, Chaturanga, Jogajog, Shesher Kabita, Dak Ghar, Raja Edit this on Wikidata
Arddulltraethawd, stori fer, nofel Edit this on Wikidata
TadDebendranath Tagore Edit this on Wikidata
PriodMrinalini Devi Edit this on Wikidata
PlantRathindranath Tagore Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, OBE, honorary doctor of the University of Calcutta, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Tagore yn awdur barddoniaeth, dramâu a ffuglen yn Fengaleg, yn gerddor ddawnus ac yn artist da. Ei waith mwyaf adnabyddus yn y Gorllewin yw'r gyfrol ddylanwadol o gerddi Gitanjali, a gyfieithwyd i'r Saesneg yn 1912. Beirniadwyd ef gan Gandhi fel hyn: 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Cafodd hyn effaith drom ar Waldo Williams.[1]

Ffynonellau golygu

  1. Jâms Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13