Bengaleg
Siaredir Bengaleg (Bengaleg: বাংলা Bangla) ym Mengal, rhanbarth yn isgyfandir India yn ne Asia sy'n ymestyn rhwng Bangladesh a thalaith Gorllewin Bengal yn India.
Math o gyfrwng | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Bengali–Assamese |
Enw brodorol | বাংলা |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | bn |
cod ISO 639-2 | ben |
cod ISO 639-3 | ben |
Gwladwriaeth | Bangladesh, India |
System ysgrifennu | Bangla alphabet, Bengali Braille |
Corff rheoleiddio | Academi Bangla, Paschimbanga Bangla Akademi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n aelod o'r ieithoedd Indo-Ariaidd ac mae'n perthyn i ieithoedd eraill Gogledd India, yn enwedig Assameg, Orïa a Maithili.
Llenyddiaeth
golyguMae gan y Fengaleg lenyddiaeth hen a diddorol. Rabindranath Tagore yw'r awdur Bengaleg enwocaf.
Yr Wyddor
golyguMae system ysgrifennu arbennig gan yr iaith Fengaleg. Yn hytrach na gwyddor fel y cyfryw, mae'n abwgida ble mae pob symbol yn cynrycholi sillaf. Dyma enghraifft o destun yn Bengaleg (o'r Datganiad Cyffredinol am Hawliau Dynol)
ধারা ১: সমস্ত মানুষ স্বাধীনভাবে সমান মর্যাদা এবং অধিকার নিয়ে জন্মগ্রহণ করে। তাঁদের বিবেক এবং বুদ্ধি আছে; সুতরাং সকলেরই একে অপরের প্রতি ভ্রাতৃত্বসুলভ মনোভাব নিয়ে আচরণ করা উচিত।
Ffonoleg
golyguMae 29 o gytseiniaid a 7 o lafariaid, yn ogystal â 7 o lafariaid trwynol. Yn ogystal â'r llythyren yn yr wyddor Fengaleg, mae'r tablau isod yn dangos y symbol yn yr wyddor seinegol ryngwladol.
Blaen | Canol | Ôl | |
---|---|---|---|
Agos | ই~ঈ i |
উ~ঊ u | |
Canolig Agos | এ e |
ও o | |
Canolig Agored | অ্যা ɛ |
অ ɔ | |
Agored | আ ɐ / a |
Blaen | Canol | Ôl | |
---|---|---|---|
Agos | ইঁ~ঈঁ ĩ |
উঁ~ঊঁ ũ | |
Canolig Agos | এঁ ẽ |
ওঁ õ | |
Canolig Agored | এ্যাঁ / অ্যাঁ ɛ̃ |
অঁ ɔ̃ | |
Agored | আঁ ã |
Gwefusol | Deintiol / Alfeolaidd |
Ôl-blyg | Ôl-orfannol | Felar | Glotol | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Trwynol | m | n | ŋ | |||||
Ffrwydrol | Di-lais | Di-anadl | p | t̪ | ʈ | tʃ | k | |
Anadlog | pʰ~f | tʰ | ʈʰ | tʃʰ | kʰ | |||
Lleisiol | Di-anadl | b | d̪ | ɖ | dʒ | ɡ | ||
Anadlog | bʱ~v | dʱ | ɖʱ | dʒʱ | ɡʱ | |||
Ffrithiol | s | ʃ | ɦ | |||||
Dynesol | (w) | l | (j) | |||||
Rhotig | r | ɽ~ɽʱ |
Gramadeg
golyguYn wahanol i'r Gymraeg a llawer o Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill, nid oes gan enwau genedl gramadegol (gwryw neu benyw). Trefn arferol y frawddeg yw SOV (goddrych, gwrthrych, berf), felly mae'r ferf ar ddiwedd y frawddeg, yn hytrach nag ar y cychwyn fel yn Gymraeg.
Lleoliad siaradwyr
golyguYn ogystal ag ym Mangladesh, Bengaleg yw'r iaith frodorol yn nhalaith Bengal yn India, yn ogystal â rhannau o Assam, Jharkhand ac Ynysoedd Andaman a Nicobar.
Siaradwyr y tu hwnt i isgyfandir India
golyguMae cymunedau sylweddol o siaradwyr Bengaleg yn:
- De-ddwyrain Asia: Maleisia, Nepal a Singapôr, Myanmar
- Awstralia
- Y Dwyrain Canol: Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig
- Ewrop: Cymru[6], Lloegr, yr Alban, Ffrainc
- Gogledd America: Unol Daleithiau America.
Hanes
golyguYn wreiddiol, roedd tebygrwydd mawr rhwng Bengali a Pali, ond daeth y Fengaleg fwyfwy dan ddylanwad Sansgrit yn ystod cyfnod Chaitanya (1486 - 1534), a hefyd yn ystod cyfnod dadeni Bengâl (1775- 1941). O blith yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd ar isgyfandir India, mae Bengaleg a Marathi yn defnyddio llawer o eirfa ar sail Sansgrit, tra bo ieithoedd eraill dan ddylanwad amlycach o Arabeg a Pherseg.
Wedi annibyniaeth India a Phacistan, rhannwyd y Bengal hanesyddol rhwng y ddwy wladwriaeth - rhan o Bacistan oedd Bangladesh bryd hynny. Ym 1951–52, yng Ngorllewin Pacistan (Bangladesh erbyn hyn), lansiwyd y Mudiad Iaith Bengaleg, er mwyn amddiffyn yr iaith yn wyneb y penderfyniad i ddyrchafu Wrdw yn iaith genedlaethol. Lladdwyd nifer o brotestwyr ar 21 Chwefror 1952, ac wedi hynny sefydlwyd 21 Chwefror yn ddiwrnod y Mudiad Iaith Bengaleg. Yn ddiweddarach, penderfynodd UNESCO gydnabod hynny trwy sefydlu 21 Chwefror yn Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol.
Dolenni Allanol
golyguYmadroddion cyffredin gyda chyfieithiadau Saesneg https://www.omniglot.com/language/phrases/bengali.php
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
- ↑ 3.0 3.1 https://www.ethnologue.com/language/ben. dyddiad cyrchiad: Medi 2018.
- ↑ http://www.ethnologue.com/18/language/ben/.
- ↑ http://www.ethnologue.com/18/language/ben/. Ethnolog.
- ↑ "Bengali - languages spoken in Wales". Casgliad y Werin Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-10. Cyrchwyd 2021-04-10.