Llenyddiaeth dihirod

Genre lenyddol sy'n adrodd straeon o fyd lladron a throseddwyr eraill yw llenyddiaeth dihirod oedd yn boblogaidd yn Lloegr yr 16g a'r 17g. Roedd y straeon gan amlaf ar ffurf gyffesol ac yn llawn disgrifiadau byw. Mae llenyddiaeth dihirod yn ffynhonnell bwysig wrth ddeall bywyd pob dydd y werin a'i hiaith, ac iaith lladron a chardotwyr. Mae'r genre hon yn perthyn i straeon Robin Hwd a'r llyfr ffraethebion, yn ogystal ag enghreifftiau cynnar o ffuglen yn y llais cyntaf a'r hunangofiant.[1]

Llenyddiaeth dihirod
Enghraifft o'r canlynoldosbarth llenyddol Edit this on Wikidata

Ymhlith prif awduron y fath straeon oedd Thomas Harman, Robert Copland, Robert Greene a Thomas Dekker.

Cyfeiriadau golygu

  1. Birch, Dinah (gol.) The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 853.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: llenyddiaeth dihirod o'r Saesneg "rogue literature". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.