Thomas Dekker
Dramodydd a phamffledwr o Loegr oedd Thomas Dekker (tua 1572 – 1632) a flodeuai yn oes theatr Elisabeth ac Iago. Nodweddir ei waith gan bortreadau bywiog o Lundain ac iaith y ddinas, rhyddiaith llawn hwyl a mynd, plotiau rhamantaidd a moesolaidd, a themâu gwladgarol a Phrotestannaidd.
Thomas Dekker | |
---|---|
Ganwyd | 1572 Llundain |
Bu farw | 25 Awst 1632 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, bardd, llenor |
Adnabyddus am | Patient Grissill |
Ni wyddys llawer am fywyd Dekker. Credir iddo gael ei eni i deulu o fewnfudwyr Iseldiraidd yn Llundain.[1] Roedd ganddo rywfaint o grap ar yr ieithoedd Lladin, Ffrangeg, ac Iseldireg, ac mae'n bosib iddo fod yn filwr yn ystod ei ieuenctid.[2]
Sonir amdano yn gyntaf, fel dramodydd, ym 1598. Ysgrifennodd o leiaf 42 o ddramâu, naill ai ar liwt ei hun neu yn cydweithio â llenorion eraill. O'r rhai sydd yn goroesi, mae naw drama sydd yn waith Dekker yn unig, gan gynnwys The Shoemakers Holiday (1599) a The Honest Whore, Part 2 (1630), a 13 drama arall a ysgrifennwyd ganddo gydag eraill, yn eu plith Thomas Middleton (The Honest Whore, Part 1, 1604 a The Roaring Girl, 1610), John Webster (Westward Ho, 1604 a Northward Ho, 1605), Philip Massinger, John Ford, a William Rowley. Yn ystod y ffrae a elwir "rhyfel y beirdd" neu "ryfel y theatrau", cafodd Dekker ei bortreadu ar ffurf Demetrius Fannius yn y ddrama Poetaster (1601) gan Ben Jonson. Ymatebodd Dekker yn ei waith Satiro-mastix (1601).[1]
Dekker oedd un o brif bamffledwyr Oes Iago ac mae ei ryddiaith yn cynnwys straeon am y pla (The Wonderfull Yeare, 1603) ac enghreifftiau o lenyddiaeth dihirod (The Belman of London, 1608) mewn dynwarediad o Robert Greene, yn ogystal â The Guls Horne-booke (1609) sydd yn dychanu bywyd y theatr Lundeinig.[1]
Treuliodd Dekker y cyfnod 1613–19 yn y carchar dyledwyr, ac mae'n debyg iddo dynnu ar ei brofiad wrth gyfrannu disgrifiadau o fywyd yn y ddalfa at chweched argraffiad Characters (1616) gan Syr Thomas Overbury. Bu Dekker hefyd yn ymwneud â pherfformiadau cyhoeddus y tu hwnt i'r llwyfan, ac yn gyfrifol am y dathliadau stryd i groesawu'r Brenin Iago i Lundain ym 1603 a phasiantau'r Arglwydd Faer ym 1612, 1627, 1628, a 1629. Er gwaethaf ei lenydda a'i drefniadau toreithiog, mae'n debyg yr oedd Dekker unwaith eto mewn dyled fawr pan fu farw tua 60 oed ym 1632.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Thomas Dekker. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Medi 2020.
- ↑ (Saesneg) "Thomas Dekker" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar 19 Medi 2020.
Darllen pellach
golygu- J. H. Conover, Thomas Dekker: An Analysis of Dramatic Structure (1969).
- K. L. Gregg, Thomas Dekker: A Study in Economic and Social Backgrounds (1924).
- M. L. Hunt, Thomas Dekker (1911).
- G. R. Price, Thomas Dekker (1969).