Tarren
(Ailgyfeiriad o Llethr sgarp)
Llethr serth neu glogwyn hir a greir gan erydiad, ffawtiad neu gyfuniad o'r ddwy broses yw tarren neu sgarp.[1] Y prif fathau yw:
- tarren ffawt: pan bo ffawt yn dadleoli arwyneb y ddaear
- tarren ffawtlin: pan bo erydiad ar un ochr hen ffawt
- tarren ffawtlin gyfansawdd: cyfuniad o erydiad a ffawtiad
- tarren erydol: pan bo toriad fertigol neu flaen-erydu'r pedimentau.[2]
Math | llethr |
---|---|
Rhan o | cuesta |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ sgarp. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Hydref 2016.
- ↑ (Saesneg) "scarp" yn A Dictionary of Earth Sciences (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1999).
Oriel
golygu-
Ochrau Craig Arthur, un o darenni Creigiau Eglwyseg yn Sir Ddinbych
-
Tarren a'r gwlyptiroedd ar ei throed ym Mharc Cenedlaethol Kakadu yn Nhiriogaeth y Gogledd, Awstralia
-
Tarren ar fynydd Úlfarsfell yng Ngwlad yr Iâ
-
Y Darren Frown ym Mhenryn yr Antarctig