Lewis Davies Jones
Llenor ac eisteddfodwr oedd Lewis Davies Jones, neu Llew Tegid (3 Tachwedd 1851 – 4 Awst 1928). Roedd yn athro ym Mangor wrth ei alwedigaeth a chododd arian mawr er mwyn sefydlu Prifysgol Bangor.
Lewis Davies Jones | |
---|---|
Ganwyd | 3 Tachwedd 1851 Llangywer |
Bu farw | 4 Awst 1928 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro |
Magwraeth a theulu
golyguGaned Llew Tegid yn y Ffridd Gymen ger y Bala ac aeth i Ysgol Frutanaidd y Bala yn 1862, cyn treulio tymor yno fel disgybl-athro. Roedd ganddo dri brawd: un yn daid i'r digrifwr Mici Plwm, y Parch Penllyn Jones ac Owen Cadwaladr Jones. Yn 1881 priododd Elisabeth, merch John Thomas, Plas Madog, y Parc ger y Bala. Roedd yn gyfnither i Thomas Edward Ellis, gwleidydd radicalaidd ac un o feddylwyr politicaidd mwyaf gwreiddiol a blaenllaw ei ddydd. Cawsant ddau fab a thair merch.
Addysg
golyguRhwng 1872 a 1873 mynychodd Coleg y Normal, Bangor, sef coleg i hyfforddi athrawon. Bu'n athro yn Ysgol y Cefnfaes, Bethesda, Gwynedd cyn ei benodi yn athro yn Ysgol y Garth, Bangor ym Mehefin 1875, lle treuliodd 27 mlynedd. Fe'i cofir yn bennaf fel arweinydd eisteddfod ac am eiriau llawer o alawon gwerin.
Prifysgol Bangor
golyguYn 1902 gadawodd yr ysgol er mwyn ymgyrchu i godi arian tuag at adeiladu adeiladau newydd Prifysgol ym Mangor (Y Coleg ar y Bryn); erbyn 1916 roedd wedi codi cannoedd o bunnoedd.
Bu farw ym Mangor ar 4 Awst 1928 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Glan Adda, Bangor.
Llyfrau Nel Wyn
golyguCyhoeddwyd tri o lyfrau o straeon plant (di ddyddiad) tua 1904-1908 gan awdures o'r enw "Nel Wyn"[1]
- Y Ddau Frawd
- Hywel a'r Gath"
- Cylch Abred
Mae'n debyg mae Llew Tegid oedd Nel Wyn.[2]
Cyfeiriadau
golygu- Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru