Llangywer
Pentref bychan a chymuned ym Meirionnydd, Gwynedd, Cymru, yw Llangywer ( ynganiad ) (hefyd Llangywair; llygriad Saesneg: Llangower).[1] Saif Llangywer ar lan ddeheuol Llyn Tegid, tua 3 milltir a hanner i'r de o'r Bala a llai na chilometr o Lanuwchllyn. Rhed trac Rheilffordd Llyn Tegid trwy Llangywair, a cheir gorsaf yno. Yn 2011 roedd poblogaeth y gymuned hon yn 260.
![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.877°N 3.63°W ![]() |
Cod SYG | W04000081 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2][3]
Hanes a hynafiaethauGolygu
Saif Castell Gronw ger y pentref, hen domen o'r Oesoedd Canol.
Yn yr Oesoedd Canol bu Llangywair yn un o dri phlwyf cwmwd Uwch Tryweryn yng nghantref Penllyn. Noda Cwm Cynllwyd, sy'n codi i gyfeiriad Bwlch y Groes, ffin orllewinol y plwyf, sy'n codi i'r dwyrain i fryniau deheuol Y Berwyn. Mae'n ardal fynyddig iawn gyda'r rhan fwyaf o'r anneddau'n gorwedd ar y llain o dir isel ar lan Llyn Tegid.
Bu'r bardd Euros Bowen yn reithor yma am flynyddoedd. Efallai fod Llangywer yn fwyaf adnabyddus am y gân werin draddodiadol:
- Ffarwel i blwy Llangywer
- A'r Bala dirion deg ..
Eglwys Santes CywairGolygu
Cysegrir eglwys y plwyf i santes leol o'r enw Cywair. Ni wyddom ddim amdani o gwbl, ond credir fod llun dychmygol ohoni ar ffenestr liw dwyreiniol yr eglwys.
Ceir cofnod am yr eglwys hon yn Taxatio 1291. Cofnodwyd i John Wynne ymweld â'r lle yn 1729. Yn ôl Cadw, 'St. Gwawr' yw'r enw cywir.[4] Mae colofnau'r eglwys yn dyddio'n ôl i'r 15g os nad cynt. Caewyd y drysau am y tro olaf yn 2003 gan mai dim ond tri aelod oedd gan yr eglwys.[5]
Ceir ffynnon sanctaidd gerllaw - Ffynnon Gywair - a orchuddir gan garreg a enwir yn Llech Cywair. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl werin am foddi'r deyrnas lle saif Llyn Tegid heddiw, esgeuluso rhoi'r garreg yn ôl ar y ffynnon a barodd iddi orlifio a boddi'r hen deyrnas, gan ffurfio'r llyn.[6] Dyddia eglwys Llangywer o'r 13g, ond cafodd ei hail-adeiladu yn 1871.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Defnyddir sillafiad Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ British Listed Buildings adalwyd 25 Medi 2014
- ↑ Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri Archifwyd 2015-09-13 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 25 Medi 2014
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001), tud. 184.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw ·
Y Bala ·
Bethesda ·
Blaenau Ffestiniog ·
Caernarfon ·
Cricieth ·
Dolgellau ·
Harlech ·
Nefyn ·
Penrhyndeudraeth ·
Porthmadog ·
Pwllheli ·
Tywyn
Pentrefi
Aberangell ·
Aberdaron ·
Aberdesach ·
Aberdyfi ·
Abererch ·
Abergwyngregyn ·
Abergynolwyn ·
Aberllefenni ·
Abersoch ·
Afon Wen ·
Arthog ·
Beddgelert ·
Bethania ·
Bethel ·
Betws Garmon ·
Boduan ·
Y Bont-ddu ·
Bontnewydd (Arfon) ·
Bontnewydd (Meirionnydd) ·
Botwnnog ·
Brithdir ·
Bronaber ·
Bryncir ·
Bryncroes ·
Bryn-crug ·
Brynrefail ·
Bwlchtocyn ·
Caeathro ·
Carmel ·
Carneddi ·
Cefnddwysarn ·
Clynnog Fawr ·
Corris ·
Croesor ·
Crogen ·
Cwm-y-glo ·
Chwilog ·
Deiniolen ·
Dinas, Llanwnda ·
Dinas, Llŷn ·
Dinas Dinlle ·
Dinas Mawddwy ·
Dolbenmaen ·
Dolydd ·
Dyffryn Ardudwy ·
Edern ·
Efailnewydd ·
Fairbourne ·
Y Felinheli ·
Y Ffôr ·
Y Fron ·
Fron-goch ·
Ffestiniog ·
Ganllwyd ·
Garndolbenmaen ·
Garreg ·
Gellilydan ·
Glan-y-wern ·
Glasinfryn ·
Golan ·
Groeslon ·
Llanaber ·
Llanaelhaearn ·
Llanarmon ·
Llanbedr ·
Llanbedrog ·
Llanberis ·
Llandanwg ·
Llandecwyn ·
Llandegwning ·
Llandwrog ·
Llandygái ·
Llanddeiniolen ·
Llandderfel ·
Llanddwywe ·
Llanegryn ·
Llanenddwyn ·
Llanengan ·
Llanelltyd ·
Llanfachreth ·
Llanfaelrhys ·
Llanfaglan ·
Llanfair ·
Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) ·
Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) ·
Llanfihangel-y-traethau ·
Llanfor ·
Llanfrothen ·
Llangelynnin ·
Llangïan ·
Llangwnadl ·
Llwyngwril ·
Llangybi ·
Llangywer ·
Llaniestyn ·
Llanllechid ·
Llanllyfni ·
Llannor ·
Llanrug ·
Llanuwchllyn ·
Llanwnda ·
Llanymawddwy ·
Llanystumdwy ·
Llanycil ·
Llithfaen ·
Maentwrog ·
Mallwyd ·
Minffordd ·
Minllyn ·
Morfa Bychan ·
Morfa Nefyn ·
Mynydd Llandygái ·
Mynytho ·
Nantlle ·
Nantmor ·
Nant Peris ·
Nasareth ·
Nebo ·
Pant Glas ·
Penmorfa ·
Pennal ·
Penrhos ·
Penrhosgarnedd ·
Pen-sarn ·
Pentir ·
Pentrefelin ·
Pentre Gwynfryn ·
Pentreuchaf ·
Pen-y-groes ·
Pistyll ·
Pontllyfni ·
Portmeirion ·
Prenteg ·
Rachub ·
Y Rhiw ·
Rhiwlas ·
Rhos-fawr ·
Rhosgadfan ·
Rhoshirwaun ·
Rhoslan ·
Rhoslefain ·
Rhostryfan ·
Rhos-y-gwaliau ·
Rhyd ·
Rhyd-ddu ·
Rhyduchaf ·
Rhydyclafdy ·
Rhydymain ·
Sarnau ·
Sarn Mellteyrn ·
Saron ·
Sling ·
Soar ·
Talsarnau ·
Tal-y-bont, Abermaw ·
Tal-y-bont, Bangor ·
Tal-y-llyn ·
Talysarn ·
Tanygrisiau ·
Trawsfynydd ·
Treborth ·
Trefor ·
Tre-garth ·
Tremadog ·
Tudweiliog ·
Waunfawr