Llinos y mynydd

(Ailgyfeiriad o Llinos y Mynydd)
Llinos y Mynydd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Carduelis
Rhywogaeth: C. flavirostris
Enw deuenwol
Carduelis flavirostris
(Linnaeus, 1758)

Aderyn yn perthyn i'r teulu Fringillidae yw Llinos y mynydd (Carduelis flavirostris). Mae'n nythu ar draws gogledd Ewrop a chanolbarth Asia, fel rheol ar y twndra neu ar dir uchel, di-goed.[1]

O ran maint, mae'n debyg i'r Llinos, ond mae'r plu yn fwy brown, heb y lliw coch a welir yn y Llinos. Mae'r pig yn felyn yn y gaeaf ac yn llwyd yn yr haf.[1]

Wyau Carduelis flavirostris

Yng Nghymru, mae nifer fychan o'r rhywogaeth yma yn nythu yn Eryri. Ceir niferoedd ychydig yn fwy yn y gaeaf, ger glannau'r môr yn bennaf.[2]

Statws golygu

Mae niferoedd y llinos fynydd yn gostwng yn Eryri. Tros y 10 mlynedd dwythaf, mae niferoedd y rhai sydd yn magu wedi mynd i lawr yn arw. Fel rhan o astudiaeth i’r gostyngiad, mae nifer o’r adar hyn wedi cael eu modrwyo gyda modrwyau lliw. Mae dros 25 o’r llinosiaid mynydd yn Nant Ffrancon wedi cael modrwyau lliw unigryw, er mwyn ymdrechu i gael mwy o wybodaeth am symudiadau ein hadar Cymreig. Yn ystod mis Chwefror [2010] dalwyd 8 o’r llinosiaid ar yr arfordir ger Pensarn, Abergele. Mi oedd un o’r rhein yn gwisgo modrwy fetal y BTO. Yn ddiddorol mi oedd yr aderyn yma wedi ei fodrwyo yn Clachtoll, gogledd orllewin yr Alban y mis Awst cynt.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Snow, D. W. & C. M. Perrins (1998) Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 2, Oxford University Press, Rhydychen.
  2. Green, Jonathan (2002) Birds in Wales: 1992-2000, Cymdeithas Adaryddol Cymru.
  3. Kelvin Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 30
  Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.